Mwy o Newyddion
Furlong a Donaldson yn cynnig cyngor i'r Ysgrifennydd Cabinet newydd ar gyfer Addysg
Cynhaliwyd digwyddiad cyhoeddus cyntaf Cyngor y Gweithlu Addysg mewn cydweithrediad â'r Brifysgol Agored yng Nghymru, sef 'Siarad yn Broffesiynol' gyda'r Athro John Furlong a'r Athro Graham Donaldson yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, yr wythnos yma.
Y newyddiadurwraig Catrin Haf Jones o ITV Cymru Wales oedd yn cyflwyno'r noson, gyda 250 o bobl o'r sector addysg yng Nghymru yn bresennol i glywed barn y ddau arbenigwr am ddyfodol addysg yng Nghymru.
Yn ei hymddangosiad cyntaf ers cael ei phenodi'n Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Addysg, fe achubodd Kirsty Williams ar y cyfle i siarad â gweithwyr addysg proffesiynol o ysgolion, colegau addysg bellach a darparwyr dysgu seiliedig ar waith o bob cwr o Gymru cyn derbyn cyngor cyfeillgar gan y ddau arbenigwr.
John Furlong yw Athro Emeritus ar gyfer Addysg ym Mhrifysgol Rhydychen, ac awdur yr adroddiad 'Addysgu Athrawon Yfory' a gyhoeddwyd yn 2015.
Mae gan yr Athro Graham Donaldson dros 40 mlynedd o brofiad o weithio ym maes addysg, ac efe yw awdur yr adolygiad annibynnol i drefniadau cwricwlwm cenedlaethol ac asesu yng Nghymru, 'Dyfodol Llwyddiannus'.
Fe amlinellodd y siaradwyr eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol y system addysg yng Nghymru a'r newidiadau arfaethedig i Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon cyn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb lle gofynnodd aelod o'r gynulleidfa iddynt beth fyddai eu cyngor nhw i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Dywedodd John Furlong, "Daliwch eich tir, a byddwch yn gyffrous am gyfeiriad y daith sydd eisoes wedi dechrau. Mae hi'n agenda cyffrous a radical tu hwnt.
"Yr her fwyaf fydd gweithredu'r newidiadau a dysgu sut i weithio gyda'r holl bobl sydd eisoes wedi eu sefydlu a thynnu ar gefnogaeth estynedig. Dwi am i chi gael yr holl glod am weithredu hyn."
Ychwanegodd Graham Donaldson: "Wrth i ni symud ymlaen dros y blynyddoedd nesaf, yn ddiau, bydd yna lawer o ddringo a disgyn. Un o'r swyddogaethau allweddol y gall yr Ysgrifennydd ei chwarae yw ceisio amddiffyn gonestrwydd yr hyn rydym yn ceisio ei gyflawni o'r rhwystrau ar hyd y ffordd drwy reoli gwleidyddiaeth a'r amgylchiadau allanol.
"Hefyd yr angen i barhau i sôn am y wobr oherwydd wnelo hyn oll ag ysbrydoliaeth a'r angen i barhau i ysbrydoli'r proffesiwn addysg a'r gymuned ehangach i weld bod yr hyn a wnawn yn rhywbeth arbennig iawn, ac os cawn ni hyn yn iawn, mi fydd yn ffantastig."
Cafodd 'Siarad yn Broffesiynol 2016' ei recordio a gallwch ei wylio drwy ymweld â www.cga.cymru neu drwy ddilyn #siaradproff16 ar Twitter.