Mwy o Newyddion
Disgyblion yn enwi cynllun tai fforddiadwy lleol newydd yn Llys Gary Speed
Bu disgyblion ysgol o Sir y Fflint yn helpu i enwi cynllun tai fforddiadwy lleol newydd gyda’r enw a ddewiswyd yn cofio’r chwaraewr pêl-droed a rheolwr Cymru, Gary Speed, a fagwyd gerllaw.
Treuliodd disgyblion Ysgol Gynradd Ethelwold Sant yn Shotton ac Ysgol Penarlâg amser yn ymchwilio i’r ardal leol lle bydd y cartrefi newydd, datblygiad fydd yn cynnwys 21 o dai oddi ar Lower Aston Hall Lane ger Aston Hill, yn cael eu hadeiladu.
Fe wnaethant edrych ar ddaearyddiaeth a hanes yr ardal a’r rhai oedd wedi ysbrydoli eraill yn y gymuned leol.
“Cynigiodd y plant nifer o awgrymiadau, gan gynnwys enwi’r cynllun tai newydd ar ôl cyn-gapten a rheolwr tîm pêl-droed Cymru a aned ym Mancot, sydd yn agos iawn i’r safle, a chael ei fagu yn Aston Park,” dywedodd Mr Paul Oliver, Prifathro Ysgol Ethelwold Sant.
“Mae’r plant yn deall bod Gary wedi marw tra roedd yn dal yn ifanc iawn, ond pan oedd yn cael ei fagu yma ei fod yn debyg iawn i lawer o blant sydd wrth eu bodd yn chwarae pêl-droed.
"Roedd y plant yn meddwl y byddai’n addas iawn cofio Gary Speed yn y gymuned leol ac maent mor falch bod eu hawgrym wedi cael ei dewis.
"Bu Gary yn chwarae i dîm ysgolion cynradd y Sir a bu yn Ysgol Uwchradd Glannau Dyfrdwy ac Ysgol Uwchradd Penarlâg cyn mynd ymlaen i fod y chwaraewr allan o’r gôl i gael mwyaf o gapiau yn ogystal â bod yn Gapten ac yn Rheolwr ar dîm cenedlaethol Cymru,” ychwanegodd Mr Oliver.
Bydd y gwaith yn dechrau ar ddatblygiad ‘Llys Gary Speed’, fel y mae wedi ei enwi erbyn hyn, yn hwyrach y mis hwn gyda’r cynllun, yn cynnwys cartrefi teuluol dwy, tair a phedair ystafell wely yn ogystal ag un byngalo a dylent fod wedi eu gorffen yn hwyr yng ngwanwyn 2017
Bydd y cartrefi yn cael eu datblygu gan Grŵp Tai Pennaf mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint, a byddant yn cael eu rheoli ar ôl eu hadeiladu gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Pennaf.
“Dewiswyd yr enw newydd, ar sail un o’r awgrymiadau gan Ysgol Ethelwold Sant, trwy ymgynghori ag aelodau’r ward leol a fu hefyd yn cysylltu â theulu Mr Speed am yr awgrym
" Hoffem ddiolch i’r holl blant a’r staff yn y ddwy ysgol am gynnig awgrymiadau rhagorol,” dywedodd Deiniol Evans, Cyfarwyddwr Datblygu a Gwasanaethau Technegol Pennaf.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod o’r Cabinet dros Dai ar Gyngor Sir y Fflint sydd hefyd yn Aelod Ward lleol dros yr ardal: “Rwyf yn hynod o falch ac wrth fy modd bod y plant yn cydnabod Gary Speed fel rhywun sy’n ysbrydoli llawer.
"Mae’r awgrym gan y plant lleol i gofio un o gyn-ddisgyblion yr ysgol leol yn galonogol iawn.
"Cyflwynwyd ei MBE i Gary am ei wasanaeth i chwaraeon, ac ef yw’r chwaraewr allan o’r gôl a dderbyniodd y nifer fwyaf o gapiau dros ei wlad hyd yn hyn.
"Hoffwn ddiolch i’r holl blant a gymerodd ran a chynnig awgrymiadau rhagorol. Rwyf yn awr yn edrych ymlaen at weld y datblygiad newydd, Llys Gary Speed, yn datblygu.”