Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mehefin 2016

Arweinydd Plaid yn galw am ymestyn dyddiad cau cofrestru i bleidleisio

Mae Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru wedi galw am ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn refferendwm yr UE yn dilyn gwall technegol neithiwr a wnaeth atal miloedd o bobl rhag cael pleidlais ar Fehefin 23ain.

Mynodd Leanne Wood na ddylid gwadu neb eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio gan annog Llywodraeth y DG i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau fod pawb sy'n dymuno pleidleisio yn y refferendwm hollbwysig yn medru gwneud hynny.

Dywedodd Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru: "Mae'n annerbyniol fod miloedd o bobl wedi methu a chofrestru i bleidleisio neithiwr yn sgil gwall technegol ar wefan y llywodraeth.

"Bydd y refferendwm Ewropeaidd ar Fehefin 23ain yn benderfyniad pwysig. Ni ddylid gwadu neb eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio.

"Dylid ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i wneud yn iawn am fethiant y system.

"Rwy'n annog y llywodraeth i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau fod pawb sy'n dymuno dweud eu dweud yn y refferendwm hwn yn medru gwneud hynny."
 

Rhannu |