Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Mehefin 2011

O’r gwrthdaro i heddwch yr Eisteddfod

MAE Aelod Seneddol y Blaid Lafur, Stephen Timms, wedi llwyddo i sicrhau bod cerddor o Bacistan yn medru dod i’r wlad a chystadlu yn Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen.

Fe ysgrifennodd at yr Asiantaeth Ffin a mewnfudo yn y gobaith y byddai Zeshan Rahab, canwr sy’n Gristion o Ogledd Orllewin Punjab, yn medru teithio i Brydain er mwyn cystadlu yng Ngŵyl Gerddorol amlycaf Gogledd Cymru.

Fe wnaeth Mr Timms ysgrifennu llythyr o’i wely yn yr ysbyty, ar ôl dioddef ymosodiad gan fenyw Pacistanaidd yn ei feddygfa yn Nwyrain Llundain ym Mai 2010.

Zeshan fydd yr unawdydd Pacistanaidd cyntaf i ganu yn Eisteddfod Llangollen mewn 65 blynedd. Bydd Zeshan yn canu a chwarae’r harmoniwm a pherfformio cerddoriaeth draddodiadol Urdu Ghazal, cerddoriaeth gydag ystyr personol a dwys i Eglwys y Cristion ym Mhacistan.

Meddai Zeshan: “Mae’n fraint anhygoel i mi gael fy adnabod fel yr unawdydd Pacistanaidd cyntaf i berfformio a chystadlu mewn gŵyl ryngwladol uchel ei pharch.

“Dwi’n falch i fod yma a chael y cyfle i rannu cerddoriaeth Urdu Ghazal gyda Phrydain a Chymru.

Ychwanegodd: “Dwi’n edrych ‘mlaen at berfformio yn Llangollen, clywais ei bod yn ardal brydferth.”

Mae Pacistan yn gartref i dros 187 miliwn o bobl, a 97% ohonynt yn Fwslemiaid. Yn ddiweddar mae’r tensiwn rhwng y mwyafrif o gymunedau Mwslemiaid a’r lleiafrif o grwpiau Cristnogol wedi cynyddu.

Tref enedigol Zeshan yw Gujranwala yng Ngogledd Orllewin Punjab, tref fasnachol gyda phedair miliwn o Fwslemiaid a hanner miliwn o Gristion, sydd wedi cyd-fyw yn heddychlon am flynyddoedd lawer.

Yn yr wythnosau diweddaraf fe wnaeth eithafwyr gyhuddiad ar gam yn ymwneud â chabledd, yn erbyn tad a mab a oedd yn Gristion o Goleg Technegol Cristnogol, ac yn sgil hyn fe fu gwrthdaro aruthrol yn erbyn y trefedigaethau Cristnogol tlawd Gulzar ac Aziz.

Trefnodd arweinwyr rhesymol Mwslemiaid a Christnogol orymdeithiau heddwch lle y chwaraewyd cerddoriaeth ghazal ac mae’r sefyllfa erbyn hyn wedi gwella cryn dipyn yno. Mae’r gyfraith ddadleuol dros gabledd wedi arwain at nifer o Gristnogion a Mwslemiaid yn cael eu harestio ar gam o ganlyniad i warafun personol neu elyniaeth a hyd yn oed cenfigen dros broffesiynoldeb.

Yn dilyn anogaeth gan ei rieni Cristnogol, fe gychwynnodd Zeshan ddysgu harmoniwm ac yntau ddim ond yn ddeuddeg oed.

Fel llawer o bobl Pacistanaidd, bu rhaid i Zeshan ddod o hyd i waith tu allan i’w wlad enedigol, lle y mae tlodi a thrallod yn ofid mawr.

Darganfu Zeshan tra oedd yn gweithio fel labrwr yn Dubai, ac fe ddaeth i Brydain dan ofal Caplan Anglian Eglwys Ryngwladol Holy Trinity, Dubai, Parch John Weir a ddywedodd: “Mae Zeshan yn edrych ‘mlaen at berfformio yn yr Eisteddfod, roedd hi’n gamp i fedru ei gael yma i Brydain, ond dwi’n credu fod ganddo ddawn a ddylid rhannu gyda’r byd, a chyda cymaint o wledydd gwahanol yn perfformio a chystadlu yn Llangollen eleni.”

Ni fu ei daith i Langollen yn ddidrafferth. Yn dilyn cefnogaeth gan ffrindiau a chefnogwyr Cristnogol o Dubai a gynigodd nawdd ar gyfer ei gostau teithio, cafodd ei harmoniwm ei ddatgymalu a’i ddifetha gan adran ddiogelwch y maes awyr.

Dywedodd Mervyn Cousins, Prif Weithredwr Eisteddfod Llangollen: “Rydym yn hynod falch i gael Zeshan yn cystadlu a pherfformio yn yr Eisteddfod.

“Mae ei gerddoriaeth yn adlewyrchu gwir hanfod yr Eisteddfod, ei tharddiad gwreiddiol ac un o resymau amlycaf dros sefydlu’r Eisteddfod, sef er mwyn hyrwyddo heddwch a harmoni rhyngwladol trwy gerddoriaeth.

“Y mae stori Zeshan yn fuddugoliaeth o heddwch, cariad, iacháu a harmoni yn erbyn pla politicaidd rhyfel a chasineb.”

Caiff Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen ei chynnal o’r 4-10 Gorffennaf gyda dros 4000 o gystadleuwyr o dros 50 o wledydd yn perfformio yno. Bydd Zeshan yn perfformio ar y 6ed Gorffennaf ar y llwyfan awyr agored.

Ynghyd â’r cystadleuwyr, bydd artistiaid, sy’n enwog yn rhyngwladol megis Lulu, Russell Watson, Ruthie Henshall a McFly i’w gweld yn perfformio ar lwyfan byd enwog yr Eisteddfod.
 

Rhannu |