Mwy o Newyddion
Y seren opera byd enwog Bryn Terfel ar drywydd y chwedlonol Luciano yn Llangollen
Mae’r canwr opera byd-enwog Bryn Terfel wedi galw heibio Llangollen – er mwyn ffilmio rhaglen deledu newydd a mynd ar drywydd y tenor Eidalaidd chwedlonol Luciano Pavarotti.
Roedd y bas-bariton mawr yn y dref i recordio rhaglen ar gyfer S4C dim ond ychydig wythnosau cyn y bydd yn dychwelyd i’r dref ar gyfer cyngerdd gala fel rhan o ddathliadau 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni.
Enw’r rhaglen fydd ‘Taith Bryn Terfel: Gwlad y Gân’, a bydd hefyd yn cynnwys ymweliadau â Chricieth, lle canodd Bryn yn y castell, a Treboeth, man geni’r bardd Daniel James a ysgrifennodd yr emyn Calon Lân.
Yn Llangollen ymwelodd â’r Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol i holi hoelion wyth yr Eisteddfod Gethin Davies a’i wraig, Eulanwy, am eu hatgofion o Pavarotti.
Canodd y tenor o’r Eidal yn yr Eisteddfod yn 1955 fel aelod 19 oed yng Nghorws Rossini o Modena, a dychwelodd i roi cyngerdd 40 mlynedd yn ddiweddarach fel seren opera byd-enwog.
Dywedodd Bryn Terfel: “Mae’n stori hyfryd o’r hyn y gellir ei gyflawni os byddwch yn cymryd eich cyfleoedd.
“Mi wnes i’n sicr siarad efo Pavarotti am Gymru yn y 1990au cynnar ac fe ddywedodd wrthyf ei fod wedi canu yma gyda’i dad.”
Roedd Gethin Davies yn cofio 1955 pan enillodd Corws Rossini y brif gystadleuaeth i gorau - sydd erbyn hyn yn cael ei hadnabod fel cystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti - ond yr unig gofnod yn ei ddyddiadur o’r cyfnod yw mai ‘Côr Eidalaidd enillodd’.
Ond roedd y cyfreithiwr wedi ymddeol o Langollen, a’r unig berson i fod yn gadeirydd yr Eisteddfod ddwywaith, yn ymwneud llawer mwy â’r ŵyl yn 1995 pan helpodd i drefnu ymddangosiad Pavarotti.
Dywedodd Bryn Terfel ei fod hefyd wedi bod i Langollen fel cystadleuydd: “Rwy’n synnu mai dim ond unwaith y bûm i yma,” meddai: “Ond oherwydd ei bod yn ŵyl ryngwladol efallai bod y Cymry yn meddwl nad oeddem yn ddigon da?
“Rwyf wedi bod yma sawl tro ers hynny a dwy flynedd yn ôl mi wnaethon ni berfformio Sweeney Todd yma ac eleni rwyf yma eto gyda’r tenor gwych o Malta, Joseph Calleja, a fedrwch chi ddim curo Llangollen ar ddiwrnod braf.”
Mae taith Bryn eisoes wedi ei weld yn canu ‘Dafydd y Garreg Wen’ yng nghastell Cricieth, gyda’i gariad Hannah Stone yn cyfeilio iddo ar y delyn, ac ychwanegodd: “Fel perfformiwr rydych yn cyrraedd rhywle ac yn canu mewn cyngerdd yno ac wedyn yn gadael yn syth, felly mae’n braf gallu aros a threulio ychydig o ddyddiau yma.”
Mi wnaeth hefyd gyfweld Cadeirydd presennol yr Eisteddfod Rhys Davies a’i holi am yr ŵyl eleni, sy’n rhedeg o ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf, tan ddydd Sul, 10 Gorffennaf, a chanodd ‘My Little Welsh Home’ ar gyfer y rhaglen sy’n cael ei gwneud gan gwmni cynhyrchu Boom Cymru i’w darlledu ar ddiwedd mis Gorffennaf.
Dywedodd Rhys Davies: “Roedd yn wych gweld Bryn yn Llangollen unwaith eto. Mae bron fel ail gartref iddo, ac mae’n amlwg ei fod yn mwynhau dod yma ac rydym wrth ein boddau i’w gael yn ôl.
“Mae’n un o sawl perfformiwr anhygoel sy’n ymddangos ar lwyfan yr Eisteddfod eleni gan gynnwys y gantores Gymreig arbennig Katherine Jenkins a Jools Holland.”
Mae tocynnau ar gyfer cyngherddau’r Eisteddfod eleni, fydd yn cychwyn ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf, eisoes yn gwerthu’n dda, yn enwedig y tocynnau ar gyfer y noson agoriadol pryd bydd y seren ddawnus Katherine Jenkins yn cychwyn ei rhaglen trwy ganu Carmen gan Bizet gyda’r tenor Americanaidd Noah Stewart..
Dydd Mercher fydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant a bydd yn cynnwys cystadlaethau corawl a dawns a hefyd cystadleuaeth newydd yr unawd dan 16 oed a bydd y cyngerdd gyda’r nos yn rhoi llwyfan i Leisiau Theatr Gerdd.
Bydd y digymar Bryn Terfel yn serennu yng Nghyngerdd Gala y 70ain Eisteddfod ar y nos Iau. Gyda’r tenor o Malta Joseph Calleja tra bydd gweithgareddau dydd Iau yn cynnwys coroni Côr Plant y Byd.
Bydd dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd ac yn wledd o gerddoriaeth a dawns gan y goreuon o gystadleuwyr rhyngwladol yr Eisteddfod gan gyrraedd uchafbwynt gyda chystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd gyda’r hwyr.
Bydd y cyngerdd yn agor gyda Swae Carnifal y Caribî, yn cael ei ddilyn gan y neges Heddwch Ryngwladol yn cael ei thraddodi gan Theatr yr Ifanc, Rhosllannerchrugog.
Mewn newid i’r amserlen bydd dydd Gwener hefyd yn gweld Gorymdaith y Cenhedloedd, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite a fydd yn symud o’i ddydd Mawrth arferol oherwydd bod disgwyl torfeydd mwy a rhagor o gystadleuwyr i ddod i’r Eisteddfod.
Neilltuir dydd Sadwrn i’r prif gorau a bydd yn cloi gyda chystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti, cyn i’r Eisteddfod ymlacio’n llwyr yn y Llanfest ar y dydd Sul cyn y cyngerdd terfynol cofiadwy.
I archebu tocynnau ac am fwy o fanylion am ŵyl 2016 ewch i’r wefan yn www.international-eisteddfod.co.uk