Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Mehefin 2016

'Llwyddiant Bale a King yn ysbrydoliaeth i Gymru yn Euro 2016'

Bydd llwyddiant diweddar rhai o chwaraewyr Cymru dros eu clybiau yn hwb i hyder y garfan gyfan cyn ymgyrch Pencampwriaeth UEFA Euro 2016, yn ôl gohebydd S4C, Catrin Heledd.

Yn ystod y tymor yma mae Andy King wedi ennill Uwch Gynghrair Lloegr gyda Chaerlŷr, mae Gareth Bale wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr gyda Real Madrid, tra bod Wayne Hennessey a Joe Ledley wedi helpu Crystal Palace i gyrraedd rownd derfynol y Cwpan FA. Ac, yn ôl Catrin, bydd gweld eu cyd-chwaraewyr yn llwyddo ar lwyfannau mawr y byd pêl-droed yn ysbrydoli pob aelod o garfan Chris Coleman.

Dywedodd Catrin, a gafodd ei magu ym Mhentyrch, ger Caerdydd, "Does neb yn gwybod sut mae Cymru yn mynd i ymateb i'r her yn Euro 2016. Mae'n brofiad newydd i bawb. Bydd gweld beth mae Andy King, Gareth Bale, Joe Ledley a Wayne Hennessey wedi ei gyflawni'r tymor hwn yn sicr yn hwb i hyder y garfan. Mae stori Caerlŷr yn un rhamantus, ac fe gawn ni weld os allwn ni greu stori debyg yn Euro 2016, ond mae mor anodd gwybod beth i ddisgwyl."

Bydd S4C yn darlledu'n fyw o Stade de Bordeaux ar gyfer gêm agoriadol Cymru yn Euro 2016 yn erbyn Slofacia ar ddydd Sadwrn, 11 Mehefin am 4.15 (cic gyntaf 5.00) – gyda'r gêm i'w mwynhau ar S4C HD ar SKY, Freesat a Virgin ar draws y DU.

Bydd Catrin yn gohebu o ystlys y cae ar gyfer y gêm yma, ac, er ei fod yn achlysur hanesyddol i dîm Cymru, mae'r gohebydd yn rhybuddio fod yn rhaid i'r tîm gymryd gofal gyda'i gwrthwynebwyr peryglus.

"Mae Slofacia yn dîm da," ychwanegodd Catrin. "Fe enillon nhw'n ddiweddar yn erbyn Yr Almaen, felly mae'n rhaid i ni fod yn ofalus. Ond yn sicr, bydd angen targedu o leiaf un pwynt o'r gêm gyntaf yma. Dw i'n gobeithio y bydd ein hamddiffyn mor gadarn â'r arfer ac y bydd Gareth Bale yn gallu creu fflach. Bydd hi'n siŵr o fod yn achlysur arbennig yn gweld y chwaraewyr yn mynd allan ac yn clywed yr anthem. Bydd yna ambell un adref, ac yn y stadiwm, yn ei dagrau dwi'n siŵr ac yn methu credu beth maen nhw'n ei weld!

"Weithiau ti'n gorfod pinsio' dy hunain, yn cyfweld â phobl fel Joe Allen a Chris Coleman ar ôl gemau. Mae'n fraint cael siarad gyda nhw. Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i'n gweld nhw mewn rowndiau terfynol unrhyw gystadleuaeth. Mae'n wych eu gweld nhw yno nawr ac fe fydd e'n fraint i fod yno gyda nhw yn Ffrainc."

UEFA EURO 2016 - Cymru v Slofacia
Dydd Sadwrn, 11 Mehefin 4.15 (Cic gyntaf 5.00), S4C     

Mewn HD ar Sky, Freesat a Virgin yng Nghymru ac ar draws y DU

Gwefan: s4c.cymru

Cynhyrchiad BBC Cymru ar gyfer S4C

Rhannu |