Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Mehefin 2016

Leanne Wood - Pleidleisiwch i warchod hawliau gweithwyr

Heddiw mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru wedi dadlau fod pleidlais i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn bleidlais i ddiogelu hawliau gweithwyr.

Wrth gyfeirio at y buddiannau niferus y mae gweithwyr yn eu cael yn y gweithle diolch i fesurau'r UE, dywedodd Leanne Wood fod yr Undeb Ewropeaidd yn chwarae rôl bwysig mewn gwarchod hawliau gweithwyr ac y byddai'r rhain mewn perygl yn achos pleidlais i Adael.

Rhybuddiodd hi na ellir ymddiried yn y Torïaid i warchod yr hawliau hyn yn achos Brexit gan annog pobl i ystyried yn ofalus cyn pleidleisio ar Fehefin 23.

Dywedodd Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru: "Mae gweithwyr ym mhob cwr o'r DG yn mwynhau nifer o hawliau diolch i aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd.

"Mae mesurau megis cyflog cyfartal, hawl i gyfnod mamolaeth, y cyfyngiad wythnoswaith a gwyliau blynyddol oll yn bethau yr ydym yn elwa ohonynt diolch i aelodaeth y DG o'r UE.

"Cyn pleidleisio ar Fehefin 23, gofynnwch hyn - ydych chi wir yn ymddiried yn y Torïaid yn San Steffan i ddiogelu eich hawliau pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd?

"Rydym wedi dod yn rhy bell yn y frwydr dros gydraddoldeb a thegwch yn y gweithle i beryglu hyn gyda Boris Johnson a'i debyg a fydd yn sicrhau arweinyddiaeth ei blaid pe bai'r ymgyrch i Adael yn cael ei ffordd. Allwch chi ddychmygu Mr Johnson yn gofalu am hawliau dynol, hawliau marched a hawliau gweithwyr?

"O gefnogi'r cyflog byw i roi dylanwad i weithwyr dros gyflogau prif weithredwyr o fewn eu mudiad, mae gan Blaid Cymru hanes hir o gefnogi gweithwyr a chryfhau eu hawliau yn y gweithle.

"Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn parhau i gyflwyno'r achos cadarnhaol i Aros er mwyn gwarchod a chynnal y buddiannau niferus yr ydym yn eu mwynhau ar hyn o bryd diolch i aelodaeth o'r UE."

Rhannu |