Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Mehefin 2016

Llwybrau beicio yn anrhydeddu Syr David Brailsford

Bydd dau lwybr beicio trawiadol sy’n talu teyrnged i wreiddiau lleol yr hyfforddwr beicio rhyngwladol, Syr David Brailsford ac sydd yn cynnwys golygfeydd anhygoel Eryri yn cael ei lansio yn swyddogol yng Nghaernarfon ar ddydd Sul, 12 Mehefin.

Mae’r ddau lwybr seiclo ‘Ffordd Brailsford’ – y llwybr 50-milltir a’r llwybr 75-milltir yn cael eu lansio fel rhan o ddigwyddiad beicio Etape Eryri sy’n cychwyn o Gaernarfon.

O lannau’r Fenai ymlaen at Gastell Caernarfon, sy’n rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, mae’r llwybrau hefyd yn cynnwys cestyll Llywelyn ap Gruffydd o’r 13eg ganrif yn Nolbadarn (Llanberis) a Dolwydden. Mae llwybr Ffordd Brailsford sy’n cynnwys dringo anhygoel a lawr allt fydd yn cynhyrfu pyls y beicwyr gorau drwy galon Eryri yn cynnig gwir her i feicwyr profiadol yn ogystal â rhoi cyfle i’r llai profiadol feicio ar hyn rhai o lwybrau fwyaf prydferth y wlad.

Wrth drafod y llwybrau, dywedodd Syr David Brailsford: “Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i deithio’r byd yn reidio beic, ond i mi does ond un lle sy’n wirioneddol sefyll allan; adref. Does dim beicio gwell, neu ran fwyaf trawiadol o’r byd nag Eryri.

“Mae’r lle yn chwa o awyr iach yn llythrennol. Dwi byth yn gadael heb deimlo yn well na phan gyrhaeddais. Wrth dyfu i fyny, dyma’r llwybrau yr oeddwn yn hoff o’u beicio; y ffordd, y dringo, y cyfuniad hyfryd rhwng môr a mynydd. Dyma oedd fy ysbrydoliaeth.”

Wedi ei fagu yn Neiniolen yng Ngwynedd, mae Syr David Brailsford mai tirwedd naturiol Eryri oedd ei gymhelliant i fod allan ar ei feic. Erbyn hyn, er ei fod yn un o ffigyrau fwyaf blaenllaw y byd seiclo ac wedi bod yn sail i nifer o fedalau aur i Olympwyr Prydeinig yn ogystal ac arwain Syr Bradley Wiggings a Chris Froome at lwyddiant yn y Tour de France fel rheolwr cyffredinol Tîm Sky, mae o wrth ei fodd yn dod adref i fwynhau lonydd Eryri.

Ychwanegodd: “Defnyddiwyd rhannau o’r llwybrau yma yn ystod cymal o’r Tour of Britain yn 2014 a 2015. Mae’r dringo yn anferth; dringo o lefel y môr i’r pwynt uchaf o 360m ym Mhen y Pass. Mae’r golygfeydd yn hudolus, ac amrywiaeth y beicio yn wirioneddol unigryw. Mae’r ffyrdd yn llyfn: perffaith ar gyfer beicio, a’r llwybrau 50-milltir a 75-milltir ill dau wedi eu harwyddo’n dda.

“Yn ogystal â beicio gwych, un peth yr ydw i wir yn ei fwynhau pan fyddai allan ar y beic yn Eryri ydi cael hoe fach mewn caffi lleol, ac eistedd yno am ychydig yn cael paned o goffi a sgwrs gyda’r bobl leol.”

Mae llwybrau beicio Ffordd Brailsford wedi eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Bwrdeistrefol Conwy.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd a chyfrifoldeb dros Economi: “Rydym yn falch o gefnogi llwybrau beicio newydd ‘Ffordd Brailsford’. Rydym yn hynod falch o’r hyn mae Syr David Brailsford wedi ei gyflawni yn ei yrfa beicio ac mae’r llwybrau newydd yn ffordd o ddangos ein gwerthfawrogiad.

“Mae beicio yn hynod o boblogaidd led-led Prydain a thu hwnt ac mae Syr David Brailsford a fagwyd yn Neiliolen, yn un o hyfforddwyr amlycaf yn y byd seiclo. Ein nod ydi hyrwyddo’r llwybrau beicio anhygoel sydd gennym yma yn Eryri a gobeithio y bydd beicwyr o bell ac agos yn dod yma i roi sialens i’w hunain a mwynhau tirwedd bendigedig.

“Wrth gyd-weithio â phartneriaid ar draws y sector gyhoeddus a phreifat, rydym eisiau adeiladu ar ein enw da fel lleoliad twristiaeth rhyngwladol o bwys.”

Mae rhagor o wybodaeth am lwybrau beicio ‘Ffordd Brailsford’ ar gael yn y fideo fyr hon: https://youtu.be/W2oODmTwASQ ac mae manylion hefyd ar gael yma: www.ymweldageryri.info

Rhannu |