Mwy o Newyddion
Snowdon Rocks - Mike Peters yn anelu am gopa'r Wyddfa am y degfed tro
Bydd Mike Peters yn arwain taith gerdded noddedig i gopa’r Wyddfa am y degfed tro ar ddydd Sadwrn 18 Mehefin.
Mae’r daith gerdded flynyddol hon wedi llwyddo i godi dros £350,000 i helpu cleifion canser yng Ngogledd Cymru ers 2006, ac mae Mike yn gobeithio y bydd y digwyddiad yr un mor llwyddiannus eto eleni.
Bydd Mike a’r cerddwyr eraill yn dilyn llwybr Rheilffordd Llanberis i gopa’r Wyddfa, gan gyfarfod yng Nghaffi Penceunant ar gyfer araith groeso gan Mike cyn dechrau’r daith i’r copa am 11am.
Bydd cyfle i fwynhau cerddoriaeth gan artistiaid lleol cyn ac yn ystod y daith gerdded, a bydd Mike ei hun yn perfformio yng Ngwesty’r Heights yn Llanberis gyda’r nos.
Meddai Mike: “Byddwn wrth fy modd pe bai cynifer o bobl â phosibl yn gallu ymuno â ni ar gyfer digwyddiad Snowdon Rocks 2016 ar 18 Mehefin.
"Dyma gyfle rhagorol i bobl ddod at ei gilydd i gael hwyl, mwynhau cerddoriaeth wych a gwerthfawrogi tirwedd trawiadol Eryri wrth godi arian i gefnogi gwasanaethau canser y Gogledd, sydd mor bwysig i bobl leol.”
Bydd yr arian sy’n cael ei godi eleni yn mynd tuag at ymgyrch gofal canser ‘Wrth Dy Ochr’ a drefnir gan yr elusen Awyr Las, sy’n gweithio i sicrhau gofal iechyd gwell yn y gogledd.
Mae’r ymgyrch hon wrthi’n codi arian i ehangu Uned Alaw Ysbyty Gwynedd, ac yn y gorffennol mae wedi prynu offer newydd ar gyfer tair uned ganser y Gogledd yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam.
Eleni bydd cerddwyr yn gallu dewis cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia hefyd drwy godi arian at Ward Glaslyn Ysbyty Gwynedd a/neu Ysbyty Cefni ar Ynys Môn.
Gall cleifion canser, pobl â dementia, a’u gofalwyr gymryd rhan hefyd drwy deithio i gopa’r Wyddfa ar drên sy’n cael ei gomisiynu’n arbennig ar gyfer y digwyddiad.
Mae Mike Peters yn parhau i fwynhau gyrfa lwyddiannus a hynod brysur fel cerddor roc a phrif leisydd grŵp The Alarm.
Mae ar daith yn Norwy ar hyn o bryd, a bu’n perfformio yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd yn y Fflint yn ddiweddar
Fel rhywun sydd wedi brwydro yn erbyn canser sawl gwaith ei hun, mae Mike yn awyddus iawn i helpu eraill sy’n wynebu’r un sefyllfa, ac mae’r daith gerdded i gopa’r Wyddfa yn ddigwyddiad sy’n agos iawn at ei galon.
Ychwanegodd: “Fedra i ddim meddwl am ffordd well o ddiolch i’r timau nyrsio a meddygol ardderchog sydd gennym yma yn y Gogledd, ac o gofio am anwyliaid.”
I gael mwy o wybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer y daith gerdded ewch i http://cym.awyrlas.org.uk/home/
Llun: Mike yn ystod y daith i gopa'r Wyddfa y llynedd (llun gan Andy Labrow)