Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Mehefin 2011

Lansio ymgyrch iechyd y cyhoedd

Cafodd ymgyrch iechyd y cyhoedd gyntaf Cymru gyfan ei lansio gan y Gweinidog dros Iechyd, Lesley Griffiths, yr wythnos yma, i'w chynnal mewn fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru gyda phythefnos o Asesiadau Risg Diabetes am ddim.

Gan ddechrau ddydd Llun, Mehefin 13, bydd pob fferyllfa yn cynnig asesiadau papur syml i nodi'r bobl sy'n wynebu risg o ddatblygu'r cyflwr yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Mae pob fferyllfa yng Nghymru yn cynnig asesiadau risg diabetes Math 2 yn rhad ac am ddim am bythefnos er mwyn ceisio dod o hyd i'r 66,000 o bobl y credir bod ganddynt ddiabetes heb ei ddiagnosio yng Nghymru a helpu'r rheini y nodir eu bod yn wynebu risg o ddiabetes i leihau'r risg honno.

Mae'r ymgyrch, sy'n digwydd yng Nghymru yn unig, wedi'i threfnu gan Diabetes UK Cymru a Fferylliaeth Gymunedol Cymru. Mae'n un o hyd at chwe ymgyrch iechyd y cyhoedd y mae'n ofynnol i fferyllwyr cymunedol eu cynnal i fodloni gofynion y saith Bwrdd Iechyd fel rhan o'u contract a chaiff ei chefnogi hefyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, BMA Cymru a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol.

Wrth lansio'r ymgyrch, dywedodd Lesley Griffiths: "Rwy'n falch iawn o lansio'r Ymgyrch Iechyd y Cyhoedd gyntaf i'w chynnal yng Nghymru Gyfan drwy Fferyllfeydd Cymunedol.

"Mae Diabetes UK Cymru yn amcangyfrif y gall fod 66,000 o bobl yng Nghymru â diabetes Math 2 heb ei ddiagnosio. Rwy'n annog pobl i fynd i'w fferyllfa gymunedol leol i gael asesiad risg ac, os yn briodol, i gael cyngor ar sut i leihau eu risg.

"Bob blwyddyn mae fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd gyda'u Byrddau Iechyd Lleol. Dyma'r tro cyntaf i ymgyrch gydgysylltiedig gael ei chynnal ledled Cymru gan sicrhau bod y neges bwysig hon yn cyrraedd mwy o bobl."

Dywedodd Russell Goodway, Prif Weithredwr Fferylliaeth Gymunedol Cymru: "Rydym yn falch iawn mai dyma'r ymgyrch iechyd y cyhoedd gyntaf i'w chynnal yng Nghymru gyfan drwy fferyllfeydd cymunedol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r llywodraeth hon i wneud fferyllfeydd cymunedol yn ganolog i iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Y fferyllfa leol ar y stryd fawr yw'r man cychwyn perffaith i bobl ddod i ddeall eu hiechyd, pa risgiau a all fod yn berthnasol iddynt a sut i leihau'r risgiau hynny.

"Y gobaith yw y gall fferyllfeydd lleol helpu llawer o bobl yng Nghymru i leihau'r risg o ddatblygu diabetes Math 2 yn y dyfodol drwy'r fenter hon."

Dywedodd Dai Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diabetes UK Cymru:  "Mae diabetes yn gyflwr gydol oes difrifol sydd ar gynnydd sylweddol yng Nghymru ac mae'n frawychus y credir bod gan un o bob 50 o bobl sy'n byw yma ddiabetes heb ei ddiagnosio.

"Byddwn yn annog pawb sy'n poeni am eu risg o ddiabetes i fynd i'w fferyllfa leol yn ystod y pythefnos hwn i gael asesiad risg cyflym a syml.

"Po gyntaf y caiff diabetes ei ddiagnosio, gorau oll y gellir ei reoli a lleihau'r cymhlethdodau dinistriol, fel clefyd y galon, strôc a chlefyd yr arennau."

Caiff yr ymgyrch hefyd ei chefnogi gan sêr rygbi rhyngwladol Cymru.

Mae'r asesiadau'n ystyried ffactorau risg fel Mynegai Crynswth Corfforol (BMI), maint y wast a hanes y teulu er mwyn asesu risg a, lle y bo'n briodol, cynghorir pobl sut y gallant leihau eu risg drwy wella eu ffordd o fyw. Cyfeirir y rheini sy'n wynebu'r risg fwyaf at eu meddyg teulu neu nyrs practis i gael prawf diabetes.

Cafodd dros 20,000 o bobl asesiadau fel rhan o fenter debyg a drefnwyd gan Diabetes UK Cymru a Fferylliaeth Gymunedol Cymru ym mis Awst 2009. Bellach, mae dros 153,000 o bobl wedi'u diagnosio â diabetes yng Nghymru ac amcangyfrifir bod gan 66,000 arall - tua un o bob 50 o bobl - y cyflwr ond nad ydynt yn gwybod hynny.

Mae gan y mwyafrif llethol o'r 66,000 hwn ddiabetes Math 2, sef y ffurf fwyaf cyffredin o'r cyflwr sydd yn aml, ond nid bob amser, yn gysylltiedig â bod dros bwysau.

Gall pobl fyw â diabetes Math 2 heb ei ddiagnosio am hyd at 10 mlynedd a bydd hanner y bobl hynny wedi datblygu cymhlethdodau'r cyflwr, sy'n cynnwys clefyd y galon, strôc a chlefyd yr arennau, erbyn iddynt gael eu diagnosio.

Mae diabetes Math 2 yn cyfrif am tua 90 y cant o achosion o ddiabetes ac yn digwydd naill ai pan nad yw'r corff yn cynhyrchu digon o inswlin neu pan na all ddefnyddio'r inswlin y mae'n ei gynhyrchu.

Ymhlith y ffactorau risg ar gyfer diabetes Math 2 mae bod dros 40 oed, neu 25 oed ar gyfer pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, bod dros bwysau, bod â pherthnasau agos sydd â'r cyflwr a bod â gwasg fawr.

Mae dynion â gwasg sy'n 37 modfedd neu fwy, neu 35 modfedd neu fwy ar gyfer dynion o Dde Asia, a merched â gwasg sy'n 31.5 modfedd neu fwy yn wynebu risg.

I gael rhagor o wybodaeth am ddiabetes, ffoniwch Diabetes UK Cymru ar 029 2066 8276, e-bostiwch wales@diabetes.org.uk neu ewch i www.diabetes.org.uk/wales.

Llun: Ryan Jones yn cefnogi Diabetes UK Cymru yn ystod Wythnos Diabetes

Rhannu |