Mwy o Newyddion
Darganfyddiad Côr y Cewri
MAE tarddiad cerrig gleision Côr y Cewri wedi bod yn destun chwilfrydedd a chryn ddadlau ers tipyn. Cafodd un math o garreg las, y ‘dolerit smotiog’, ei holrhain yn llwyddiannus i Fynydd y Preseli yng ngogledd Sir Benfro yn gynnar yn y 1920au.
Mae ffynhonnell y cerrig gleision eraill fodd bynnag – y rhyolitau a’r tywodfeini prin wedi aros yn ddirgelwch, tan yn ddiweddar. Bellach mae daearegwyr yn Amgueddfa Cymru wedi pennu tarddiad un o’r mathau o ryolit, sydd hefyd yn gyfle i feddwl o’r newydd am sut allai’r cerrig fod wedi eu cludo i Gôr y Cewri.
Mae Dr Richard Bevins, Ceidwad Daeareg Amgueddfa Cymru, ynghyd â Dr Rob Ixer, Prifysgol Caerlŷr a Dr Nick Pearce o Brifysgol Aberystwyth, wedi bod yn gweithio ar gyfansoddiad rhyolit y cerrig gleision, ac maent wedi dod i’r casglid ei fod o darddiad Cymreig.
Drwy gyfuno technegau petrograffig cyffredin a dadansoddiad cemegol soffistigedig o’r samplau o Gôr y Cewri a gogledd Sir Benfro drwy ddefnyddio sbectromeg mas anwythiad abladiad laser cypledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, maen nhw wedi matsio un rhyolit penodol i ardal i’r gogledd o Fynyddoedd y Preseli ger Pont Saeson.
Dywedodd Richard Bevins: “Mae matsio’r garreg o Gôr y Cewri â brigiad cerrig yn Sir Benfro wedi bod yn dasg anodd iawn ond rwyf wedi edrych ar nifer fawr, os nad y mwyafrif o frigiadau cerrig ym Mynyddoedd y Preseli. Rydyn ni’n ffyddiog ein bod wedi canfod tarddiad un o’r rhyolitau o Gôr y Cewri am ein bod wedi gallu matsio ystod o nodweddion ac nid dim ond un agwedd.
“Rydyn ni nawr yn chwilio am darddiad y cerrig folcanig a thywodfeini eraill Côr y Cewri.”