Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mehefin 2016

Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio algâu ar draethau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dweud wrth trigolion ac ymwelwyr fod traethau Cymru yn lân ac yn iach, er gwaetha’r ffaith fod sylwedd ewynnog wedi ymddangos yn y dŵr ac ar draethau.

Bu pobl yn Sir Benfro yn cysylltu â swyddogion gan yn pryderu fod yr hyn a allai fod yn garthion neu slyri wedi ei ganfod ar y traeth neu yn y dŵr.

Mae CNC wedi archwilio’r sylwedd a chanfuwyd mai mân algâu naturiol o’r enw Phaeocystis  sy’n eu hachosi, a bod y rhain yn ffynnu mewn tywydd cynnes.

Mae’r algâu’n cael eu camgymryd yn aml am garthion neu lygredd arall oherwydd eu hymddangosiad olewog a’u harogl, sydd ychydig yn debyg i arogl gwymon.

Meddai Rod Thomas, Uwch Swyddog yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae gennym draethau rhagorol yma yng Nghymru ac mae ansawdd y dŵr yn arbennig o dda gydag oddeutu 80% o’r dyfroedd ymdrochi yn cyrraedd safonau uchaf Ewrop o ran glendid.

“Ar yr adeg yma o’r flwyddyn mae pobl yn rhoi gwybod inni am haenau o sylwedd sy’n ymddangos fel carthion ar yr arfordir.

“Rydym yn trin pob achos yn ddifrifol ac yn eu hasesu cyn ymateb.

“Er gwaethaf ei arogl annymunol, rydym yn darganfod mai algâu cyffredin yw’r rhan fwyaf o’r adroddiadau

"Cânt eu hachosi gan y tywydd cynnes iawn yma a bydd yn gwasgaru’n naturiol dros amser.”

Y traethau lle gwelwyd yr algâu yw Traethau Barafundle, Cwm-yr-Eglwys, Freshwater East, Lydstep, Niwgwl a Dinbych-y-Pysgod ond mae ein swyddogion yn disgwyl y bydd hyn i’w weld mewn rhagor o draethau os bydd y tywydd cynnes yn parhau.

Ym Mae Dwnrhefn math gwahanol o algâu a ddarganfuwyd , sef Chaetocerus, sy’n edrych yn wahanol i Phaeocytis.

Os bydd pobl yn gweld unrhyw achosion gallant roi wybod i CNC drwy ddefnyddio'r llinell gymorth: 0800 80 70 60.

Rhagor o wybodaeth

Mae Phaeocytis yn ffurfio gwaelod y gadwyn fwyd ac yn cefnogi cyfoeth o fywyd gwyllt morol rhyfeddol, megis pysgod, adar a mamaliaid fel dolffiniaid, sef llawer o fywyd gwyllt.

Gall rhai algâu morol effeithio ar eich croen ac achosi cosi poenus felly mae’n well osgoi ei gyffwrdd os gallwch.

Mae’r achosion o algâu a welwyd yn gyfyngedig i Dde Cymru.

Am fanylion ar ansawdd y dŵr ar unrhyw un o draethau Cymru ewch i https://naturalresources.wales/water/quality/bathing-water-quality/?lang=en

Rhannu |