Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mehefin 2016

Cyfle olaf i gofrestru i bleidleisio yn Refferendwm yr UE

Mae amser yn rhedeg allan i gofrestru cyn y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin. Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw canol nos Fawrth 7 Mehefin.

Ers lansio ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd y Comisiwn Etholiadol ar 15 Mai mae dros 1.35 miiliwn o bobl wedi gwneud cais i gofrestru i bleidleisio ar-lein ledled Prydain Fawr.

Ffeithiau a ffigyrau ceisiadau 

  • Y diwrnod gyda'r nifer uchaf o geisiadau i gofrestru ers i'r Comisiwn lansio'r ymgyrch oedd dydd Gwener 3 Mehefin gyda 186,255
  • Pobl ifanc dan 25 a 25-34 yw'r grwpiau sydd wedi bod yn gwneud y nifer mwyaf o geisiadau yn gyson, gyda 763,183 ers 15 Mai.
  • Gwnaed dros 485,000 o geisiadau i gofrestru ar y dyddiad olaf i gofrestru cyn Etholiad Cyffredinol Senedd y DU ym Mai 2015.

Dywedodd Jenny Watson, Prif Swyddog Cyfrif Refferendwm yr UE: "Dyma yw eich cyfle olaf! Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, yna rhaid i chi wneud erbyn y dyddiad cau o 7 Mehefin neu fyddwch chi ddim yn gallu pleidleisio yn y refferendwm hanesyddol yma.

"Fe wnaeth degau o filoedd o bobl wneud cais i gofrestru'r diwrnod ar ôl y dyddiad olaf i gofrestru ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y DU, ac roedden nhw'n rhy hwyr i gael dweud eu dweud. Peidiwch bod yn un o'r rheina. Mae hi ond yn cymryd ychydig funudau i gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio."

Ymgyrch ar y cyd rhwng Twitter a'r Comisiwn Etholiadol

Mae Twitter a'r Comisiwn Etholiadol wedi ymuno mewn ymgyrch arloesol i atgoffa pleidleiswyr ledled y DU bod amser yn prysur redeg allan i gofrestru i bleidleisio yn  Refferendwm yr UE ddydd Iau 23 Mehefin.

Mae'r ymgyrch yn lansio heddiw gydag emoji tic neon arbennig i gyd-fynd â'r hashnod #EuRefReady, ac mae'r Comisiwn Etholiadol yn annog defnyddwyr Twitter i drydar gan ddefnyddio'r hashnod i atgoffa eu dilynwyr i gofrestru cyn y dyddiad cau.

Bydd ail gam yr ymgyrch hefyd yn mynd yn fyw ar 8 Mehefin, lle bydd yr hashnod #EURef yn cynnwys emoji neon blwch pleidleisio.

Fe wnaeth y Comisiwn Etholiadol a Twitter ymuno am y tro cyntaf cyn Etholiad Cyffredinol 2015 lle wnaeth defnyddwyr yn y DU weld nodyn atgoffa i gofrestru i bleidleisio ar eu llinellau amser. Ar y diwrnod hwnnw, roed bron i 30% o'r holl geisiadau i gofrestru gan bobl ifanc 18-24 oed.

Mae'r dyluniad neon yn debyg i'r hysbyseb sy'n denu'r llygad sy'n rhan o ymgyrch y Comisiwn Etholiadol. 

Mae'n seiliedig ar yr ymgyrch llwyddiannus a gynhaliwyd gan y Comisiwn cyn refferendwm annibyniaeth yr Alban, lle'r oedd 84% o bobl a holwyd erbyn y diwrnod pleidleisio yn dweud eu bod yn adnabod yr hysbysebu.

Dywedodd Rob Owers, Pennaeth Newyddion, Llywodraethiant a Phartneriaethau Rhanbarthol Twitter UK: "Ry'n ni'n gyffrous iawn i fod yn bartneriaid i'r Comisiwn Etholiadol ar ymgyrch Twitter #EURefReady.

"Mae gwleidyddiaeth yn sicr yn un o'r cymunedau mwyaf llewyrchus ar Twitter ac ry'n ni'n falch o allu annog y drafodaeth ddemocrataidd sy'n digwydd bob dydd.

"Mae #ReffUE yn un o'r penderfyniadau mwyaf mae gofyn i bleidleiswyr y DU wneud mewn degawdau, felly ry'n ni'n awyddus i sicrhau bod pobl yn gwneud y mwyaf o'r sgwrs fyw ryngwladol sy'n digwydd ar Twitter i hysbysu eu penderfyniad.

`"Mae emojis wedi dod yn rhan hanfodol o sut mae pobl yn cyfathrebu’n ddyddiol ar Twitter, gan greu eu hiaith eu hun mewn 140 o nodau. Felly ry'n ni'n edrych ymlaen at roi ffordd newydd hwyl i bobl godi eu lleisiau cyn 23 Mehefin."

Lefelau ymwybyddiaeth y cyhoedd

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan y Comisiwn Etholiadol yn dangos, cyn i'r Comisiwn lansio ei ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd:

  • Doedd 1 ymhob 3 (36%) o bleidleiswyr cymwys yn y DU ddim yn ymwybodol bod Refferendwm yr UE yn digwydd o gwbl.
  • Dim ond 25% o bleidleiswyr yn y DU oedd yn gallu dweud yn ddigymell mai ar 23 Mehefin oedd y refferendwm.
  • Doedd 1 ym mhob 4 (26%) o bleidleiswyr yn y DU ddim yn gwybod eu bod angen cofrestru i gymryd rhan yn y refferendwm.

Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw canol nos Fawrth 7 Mehefin. Does dim angen i bleidleiswyr sydd eisoes wedi cofrestru ailgofrestru ar gyfer refferendwm yr UE.

Bydd y Comisiwn hefyd yn parhau i atgoffa pobl ynghylch yr etholfraint ar gyfer y refferendwm:

  • Dinesydd Prydeinig yn byw yn y Deyrnas Unedig, neu
  • Dinesydd y Gymanwlad sy'n byw yn y Deyrnas Unedig sydd â chaniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, neu nad oes angen caniatâd i aros yn y DU.
  • Dinesydd Prydeinig yn byw tramor sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn y Deyrnas Unedig yn yr 15 mlynedd diwethaf.
  • Dinesydd Iwerddon sy'n byw tramor a aned yng Ngogledd Iwerddon ac sydd wedi cofrestru i bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon yn yr 15 mlynedd diwethaf.

Os ydych yn ddinesydd yr UE, nid ydych yn gymwys i bleidleisio yn Refferendwm yr UE, heblaw eich bod yn bodloni'r meini prawf uchod.

Rhannu |