Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Mehefin 2016

Arolwg newydd yn dangos lleihad dramatig mewn cyfraddau smygu

Mae canran yr oedolion sy'n smygu yng Nghymru yn is nag erioed, yn ôl arolwg newydd o iechyd y genedl a gyhoeddwyd heddiw.

Mae Arolwg Iechyd Cymru 2015 yn dangos bod 19% o oedolion wedi dweud eu bod yn smygu ar hyn o bryd, i lawr o 26% yn 2003/4. Mae'r lleihad sylweddol hwn yn golygu bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhagori ar ei nod o leihau cyfraddau smygu i 20% erbyn 2016, ac mae ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged uchelgeisiol i ddod â'r lefelau i lawr i 16% erbyn 2020.

Fodd bynnag, mae'r canlyniadau'n dangos fod llawer ohonom yn dal i fwyta ac yfed gormod, a ddim yn gwneud digon o ymarfer corff.

Cymerodd 13,700 o oedolion a 2,600 o blant ran yn Arolwg Iechyd Cymru 2015. Dyma rai o'r prif ganlyniadau:

  • Dywedodd 40% o'r oedolion eu bod wedi yfed mwy na'r hyn sy'n cael ei argymell ar o leiaf un diwrnod yn yr wythnos flaenorol, i lawr o 45% yn 2008, gyda 24% ohonynt yn dweud eu bod wedi goryfed mewn pyliau.
  • Dywedodd tua 31% o’r oedolion eu bod wedi bod yn gorfforol egnïol ar bum  diwrnod neu ragor yn yr wythnos flaenorol.
  • Dywedodd 17% o'r oedolion eu bod wedi trafod eu hiechyd eu hunain gyda meddyg teulu yn ystod y pythefnos flaenorol, a dywedodd 70% o'r oedolion eu bod wedi bod at y deintydd yn y ystod y 12 mis blaenorol.
  • Dywedodd 94% o'r plant bod eu hiechyd cyffredinol yn dda iawn neu'n dda.

 Dywedodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans: "Mae'n galonogol ein bod bron â chyrraedd ein targed uchelgeisiol o leihau canran y bobl sy'n smygu i 16% erbyn 2020, gyda phedair blynedd tan hynny.

"Mae hyn o ganlyniad i ymdrechion gweithwyr proffesiynol sydd wedi bod yn gweithio i annog pobl ifanc i beidio â dechrau smygu  ac wedi rhoi cyngor a chymorth rhagorol i smygwyr oedd eisiau cymorth i roi'r gorau iddi. Mae'r diolch hefyd i bobl Cymru am groesawu'r newid i'r diwylliant smygu.

"Er bod canlyniadau'r arolwg yn dangos arwyddion o welliant - yn enwedig o ran smygu - mae rhagor o waith i'w wneud mewn rhai meysydd. Mae angen inni wneud cynnydd o ran gordewdra a lefelau gweithgarwch corfforol, ac rwy'n hyderus y bydd ein penderfyniad i gyfuno polisi iechyd a chwaraeon llawr gwlad  yn ein helpu i wneud hyn.

"Byddwn ni'n dal ati i gefnogi pobl i gymryd camau bach i wella eu ffordd o fyw a lleihau'r risg o salwch y gellir ei atal."

Rhannu |