Mwy o Newyddion
Angen rheolau llymach i ddelio â difrod a achosir gan wersylla gwyllt yn ardal Dinorwig
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros etholaeth Arfon, Hywel Williams wedi galw ar Gyngor Gwynedd i gyflwyno mesurau i ddelio â gwersyllwyr anghyfrifol sydd wedi bod yn defnyddio ardal ger cofeb i chwarelwyr Dinorwig fel gwersyllt, gan adael i bobl lleol glirio’r llanast sy’n cael ei adael ar ôl.
Daw ymyrraeth Mr Williams yn dilyn achos dros Ŵyl y Banc lle bu dros ugain o gerbydau wedi eu parcio ger cylchfan bys Dinorwig gyda rhai gwersyllwyr yn defnyddio cofeb y chwarelwyr fel man gwersylla. Oherwydd y llanast adewir ar ôl, mae trigolion lleol wedi dechrau clirio y sbwriel bob bore Llun, er fod bin ar y safle.
Bydd Hywel Williams yn codi’r mater gyda Chyngor Gwynedd gan alw am fesurau megis cyfyngiadau parcio er mwyn lliniaru effaith y fath ddigwyddiad yn y dyfodol.
Dywedodd Hywel Williams AS: “Mae’r tywydd braf yn denu nifer o ymwelwyr i’r ardal ac mae hyn i’w groesawu, yn enwedig ymysg busnesau lleol sy’n elwa’n sylweddol.
“Ond cefais fy siomi wrth glywed fod cylchfan bys Dinorwig a’r ardal ger y gofeb i’r chwarelwyr yn cael ei ddefnyddio fel man gwersylla dros benwythnos Gŵyl y Banc; nifer mewn faniau ac eraill mewn pebyll.
“Does gan y safle dan sylw ddim cyfleusterau o gwbl. Ymddengys fod y safle yn cael ei ddefnyddio yn rheolaidd gan ymwelwyr gyda’r niferoedd yn cynyddu’n sylweddol pan fo’r tywydd yn ffafriol.
“Mae’r llanast sy’n cael ei adael ar ôl yn annerbyniol ac mae’n disgyn ar bobl lleol i fynd o gwmpas yn casglu’r sbwriel er bod bin ar y safle. Os yw pobl eisiau gwersylla yn yr ardal, awgrymaf iddynt ddefnyddio un o’n safleoedd gwersylla gwych yn yr etholaeth sydd â chyfleusterau arbennig.
“Nid yw’n dderbyniol disgwyl i bobl lleol glirio llanast a adewir gan ymwelwyr, ond rhaid eu canmol am eu gweithred ac am gymryd y fath barch yn eu cymuned.
“Rwyf wedi ysgrifennu at Gyngor Gwynedd gan ofyn iddynt ystyried cyflwyno mesurau i atal y fath weithred yn y dyfodol megis rhybudd cyhoeddus yn cyfyngu parcio ar y safle.”