Mwy o Newyddion
Pen-blwydd hapus Mistar Urdd
ELENI, mae Mistar Urdd yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed. Cafodd y creadur bach coch gwyn a gwyrdd ei eni yn 1976, gan gychwyn ei fywyd fel braslun ar bapur i’w roi ar nwyddau ac yn degan meddal cyn datblygu i fod yn berson byw yn 1979.
Syniad Wynne Melville Jones, swyddog cyhoeddusrwydd yr Urdd ar y pryd, oedd creu mascot i’r Urdd mewn cyfnod eithaf cythryblus yn hanes y mudiad.
Eglurodd Wynne: “Roedd rhwyg a thyndra yn yr Urdd ar y pryd rhwng y to hŷn a’r to ifanc, ac arwisgo Tywysog Cymru yn dal i fod yn bwnc llosg. Roedd rhaid meddwl am syniadau i geisio uno’r mudiad, newid y ddelwedd a’i wneud yn fwy perthnasol i’r aelodau – a dyna oedd gwraidd Mistar Urdd.”
Cafodd y syniad o greu Mistar Urdd ei gyflwyno yn y cyfarfod staff cenedlaethol, a chafodd Wynne gefnogaeth lawn y cyfarwyddwr ar y pryd, J Cyril Hughes.
Dywedodd J Cyril Hughes: “Un o uchafbwyntiau fy nghyfnod yng nghadair cyfarwyddwr yr Urdd oedd dyfodiad Mistar Urdd i’n plith. Rhoddais fy nghefnogaeth frwdfrydig i Wynne pan gyflwynodd ei weledigaeth i ni, ei gydweithwyr, mewn cyfarfod yng Ngwersyll Llangrannog.”
Wendy Davies oedd gyda stondin yn Sioe Frenhinol Llanelwedd gafodd y cytundeb i greu y Mistar Urdd cyntaf wedi i Wynne ei chyfarfod yn ystod y Sioe.
Yn ôl Wynne: “Roedd Wendy yn rhedeg busnes gwneud teganau meddal ac roeddwn wedi gweld ei stondin yn y Sioe Frenhinol ers blynyddoedd. Nes i ymweld â’i fferm, sydd ar y gororau ger Tref-y-clawdd yng nghanolbarth Cymru, a chytunodd i greu samplau i mi o Mistar Urdd.”
Yn y dyddiau cynnar, roedd Mistar Urdd ar gael mewn tri maint – un mawr, un canolig ac un bach oedd âlastig i’w hongian ym mhen ben y car. Rhoddwyd archeb am 50 o rai mawr i ddechrau, ond ar ôl i’r rheiny werthu yn syth cafodd Wendy archeb am werth £12,000 o deganau.
Yn ôl Wendy: “Doeddwn i ddim yn credu fy nghlustiau pan ddaeth Wynne draw gydag archeb anferth am filoedd o’r teganau meddal! Roeddem ni’n rhedeg ein busnes o gwpl o garafanau statig ar y fferm, gyda merched ffermydd yn ardal yn picio draw i wneud ychydig oriau pan oedd yn eu siwtio nhw – ambell un yma erbyn chwech y bore i wneud awr neu ddwy, eraill yn dod gyda’u babanod i weithio.
“Roedd yn hwylus iddyn nhw gan y gallent weithio o amgylch amserlen eu teulu a’u cartref a minnau wedyn yn eu talu fesul awr. Roedd rhai yn gallu defnyddio peiriannau gwnïo, ac eraill yn dod draw i stwffio neu dorri’r defnydd. Roedd teimlad cymunedol iawn yma, a phawb mor falch mai ni oedd yn creu Mistar Urdd.”
Yn ogystal â’r teganau meddal, mi oedd Mistar Urdd i’w weld hefyd ar nwyddau megis pyjamas, tronsys a chrysau-t. Roedd yr Urdd wedi prynu peiriant printio silk, a ffatri fechan wedi ei sefydlu yn seler swyddfa’r Urdd. Cafodd griw o wirfoddolwyr lleol yn ardal Tal-y-bont ger Aberystwyth i wnïo crysau a chapiau nos , a chyflogwyd aelod o staff i edrych ar ôl yr ochr brintio.
Ychwanegodd Wynne: “Roedd yn gyfnod cyffrous iawn a olygai greu menter fusnes arloesol o fewn yr Urdd. Cafodd stondin y Mudiad yn yr Eisteddfod ei thrawsnewid o fod yn babell oedd yn gwerthu rhestr testunau, ambell fathodyn a chyfarwyddiadau dawnsio gwerin i fod yn stondin liwgar, llawn cerddoriaeth ac yn orlawn o blant a phobl ifanc a phawb am fod yn ffrind i Mistar Urdd.”
Roedd wastad yn fwriad creu cymeriad byw o Mistar Urdd, ac yn 1979 cynhaliwyd Taith Mistar Urdd o amgylch Cymru. Mici Plwm gafodd y swydd o wisgo’r siwt a chyflwyno Mistar Urdd i’r byd am y tro cyntaf ac roedd briff tynn wedi ei roi iddo gan Wynne o sut berson y dylai Mistar Urdd fod.
Yn ôl Wynne: “Wrth ddatblygu cymeriad Mistar Urdd roedden ni oll yn gytûn ar bersonoliaeth Mistar Urdd. Roedd yn fywiog, yn ddireidus ac yn llawn hwyl. Byddai nifer o nodweddion y clown yn perthyn i’w gymeriad a byddai gan Mistar Urdd yr hawl i wneud pethau na fyddai neb arall yn meiddio eu gwneud fel rhoi sws fawr i’r athrawesau a hynny o flaen y plant, neu roi cic yn nhîn prifathro a’r cyfan yn hwyl diniwed wrth gwrs.”
Un o’r neuaddau mwyaf yng Nghymru ar y pryd oedd Pafiliwn Gerddi Soffia yng Nghaerdydd, a dyna ble ymddangosodd cymeriad Mistar Urdd am y tro cyntaf cyn mynd ar daith 12 wythnos o amgylch Cymru ar gost o £10,000. Menter fawr ar y pryd hwnnw i fudiad gwirfoddol.
Yn ôl Mici Plwm: “Mi oeddwn i yn falch iawn pan ofynnodd Wynne i mi fod yn gig, gwaed ac esgyrn i Mistar Urdd. Dwi’n meddwl hefyd mod i y siâp cywir ar gyfer y cymeriad bach crwn!
“Fyddech chi ddim yn credu y sŵn a’r bwrlwm oedd yna ym mhafiliwn Gerddi Soffia yn yr ymddangosiad cyntaf un – dwi erioed wedi cael gymaint o groeso ac mi wnaethon nhw fy nghodi fi yn ysbrydol – mi oeddwn yn dawnsio fel peth gwirion!
“Mi oedd yn waith caled wedyn yn ymweld â phedair neu bump ysgol bob diwrnod am dri mis – Emyr Young yn actio Robin y Gyrrwr a minnau fel Mistar Urdd.
“Mi oeddwn yn sicr yn teimlo dan bwysau i wneud iddo weithio – roedd y disgwyliadau yn uchel a chymaint o waith wedi ei wneud yn paratoi at y lansiad ac yn trefnu’r daith. Ond er y gwaith caled a’r diffyg ocsigen yn y siwt, mi oedd yn gyfnod bythgofiadwy!”