Mwy o Newyddion
A welwn ni rywfaint o ymgyrchu tanbaid Cymreig dros aros yn Ewrop?
UN peth sy’n nodweddu’r holl ymgyrch i aros neu adael yr Undeb Ewropeaidd yw mor eithriadol o ddi-gynnwrf yw hi yng Nghymru.
A oes unrhyw un wedi gweld rhywun yn cnocio ar ddrws ar wahân ar y teledu?
Rhaid cyfaddef nad oedd etholiad y Cynulliad wedi tanio fawr ar ddychymyg neb ond mae’r etholiad rhyfedd hwn ar ein dyfodol yn Ewrop yn fwy swrth o’r hanner.
Wedi etholiad y Cynulliad cafwyd awgrym y byddai Carwyn Jones a Leanne Wood yn rhoi’r gorau i’w ffrae fach bersonol a mynd ati o ddifri i ymgyrchu i gadw’r Deyrnas Unedig yn aelod o’r Gymuned Ewropeaidd.
Hyd yma ni welwyd llawer o dân yn eu boliau ac ychydig iawn o ôl ymgyrchu er i Carwyn gyhoeddi ble y bu wrthi.
Mae hon yn wythnos anodd am ei bod yn wyliau i lawer. Ni wnaeth hynny atal David Cameron rhag rhannu llwyfan gyda Maer Llafur Llundain, Sadiq Khan.
Roedd yn achos rhy bwysig i beidio cydweithio fel yma yn ôl y Prif Weinidog Ceidwadol a benderfynodd roi’r cyfle inni roi ein barn ar ein dyfodol yn Ewrop er mwyn tawelu’r gwrth-Ewropeaid Ceidwadol croch, ac UKIP.
Ni all y Ceidwadwyr a Llafur gydweithio yng Nghymru. Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn erbyn aros. A chan ei fod wedi cymryd y safiad hwnnw mae Andrew R T Davies yn cael ysgrifennu colofn mewn papur Sul. Ei defnyddio’n rhannol a wnaeth y Sul diwethaf i geisio dadansoddi pam y collodd ei blaid aelodau i gymryd eu lle yn y Cynulliad ddechrau Mai.
Un rheswm oedd ‘dyfodiad UKIP’ a’u bod hwy yn medru trafod pynciau fel mewnfudo a’r refferendwm Ewropeaidd er nad oedd a wnelo hynny ag etholiad y Cynulliad.
Heb os, roedd sôn am faterion Ewrop yn canu cloch gyda nifer o bleidleiswyr ac aethant ati i wobrwyo UKIP gyda’u hail bleidlais ar y papur pleidleisio.
Nid oedd yn help ychwaith fod Mr Davies wedi cyhoeddi ym mis Chwefror ei fod yn erbyn aros yn rhan o’r Gymuned Ewropeaidd.
Oherwydd gwahanol safbwyntiau o fewn y blaid Geidwadol yn gyffredinol roedd yn rhaid ystyried pa effaith a gafodd hynny ar eu neges cyn 5 Mai.
Os achosodd hynny benbleth yng Nghymru nid yw’n anodd gweld beth fydd effaith y refferendwm ar y Ceidwadwyr yn Lloegr gan mai yno y bydd y bleidlais yn cael ei hennill neu ei cholli.
Yr wythnos hon daeth yn amlwg fod carfan o aelodau Ceidwadol am ddisodli Mr Cameron yn syth ar ôl 23 Mehefin. Bydd yn bandemoniwm yn y blaid pa bynnag ffordd yr â’r bleidlais.
Ond beth am yr ymgyrchu Cymreig? Hyd yma ni welwyd Carwyn Jones a Leanne Wood yn sefyll ar yr un llwyfan yn dadlau dros Ewrop.
Gan gofio’r gefnogaeth i UKIP yn etholiad y Cynulliad mae digon o angen iddynt ymgyrchu.
O ran Plaid Cymru mae’n wir fod yr Arglwydd Wigley yn mynd o gwmpas i siarad, er yn ôl un wefan gymdeithasol tenau iawn oedd y gynulleidfa iddo yn yr Ysgol Fusnes ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar a llawer iawn mwy mewn lansiad llyfr yr un noson yn y ddinas.
Yn erbyn Ewrop yr oedd Plaid Cymru yn 1975. Newidiodd eu safbwynt yn ddybryd ers hynny er fod un o’i chyn-ysgrifenyddion a chyn-ymgeisydd, Emrys Roberts, yn dadlau dros adael yr Undeb yn rhifyn Mai o Barn.
Gallai’n hawdd gael ei gamgymryd am gefnogwr UKIP mor wrthwynebus yw o’r sefydliad Ewropeaidd.
Ychydig o genedlaetholwyr fyddai’n meiddio dadlau’n debyg iddo erbyn hyn gan fod y rhan fwyaf yn credu fod aelodaeth o’r Undeb wedi bod yn fendithiol i wlad dlawd fel Cymru.
Gyda thair wythnos ar ôl o’r ymgyrch, sydd wedi troi ar stumog lliaws mawr o bleidleiswyr ers tro, a welwn ni rywfaint o ymgyrchu tanbaid Cymreig dros aros yn Ewrop?
O bosib, bydd y cyfan yn digwydd ar y teledu, a’r radio i raddau llai, a rhywfaint yn y wasg ddyddiol, i gyd mae’n debyg yn pwysleisio’r elfen economaidd, a fyddwn yn well neu yn waeth os gadawn yr Undeb, nid am gadw’r heddwch.
A faint fydd yn bachu ar y ffigwr cyfriniol hwnnw ein bod £79 y pen ar ei hennill yng Nghymru o fod yn aelod er mwyn gwneud yr ymdrech i bleidleisio?
A yw’n gobeithio gormod y bydd y dadlau ar Question Time o Gaerdydd neithiwr (nos Iau) yn ddigon i sbarduno rhywfaint o frwdfrydedd yng Nghymru dros gefnogi’r refferendwm y naill ffordd neu’r llall?