Mwy o Newyddion
Bardd Plant Cymru: Adlewyrchu ar lwyddiant blwyddyn gyntaf Anni Llŷn wrth y llyw
Mae blwyddyn union wedi mynd heibio ers i’r Prif Weinidog Carwyn Jones gyhoeddi ar brif lwyfan Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r cylch mai Anni Llŷn fyddai Bardd Plant Cymru 2015-17.
Deuddeg mis yn ddiweddarach ac mae Anni wedi hen ennill ei phlwyf a bellach yn feistr y stompio, y peli eira geiria a’r seremoni coroni odli.
Yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn y rôl, mae Anni wedi teithio i ardaloedd ym mhob cwr o Gymru gan ymweld â 17 sir, dros 40 o ysgolion, cydweithio â 18 partner allanol ac wedi ysgrifennu dros 50 o gerddi gyda beirdd bychain Cymru.
Ymysg yr uchafbwyntiau mae gweithdai ym Mae Caerdydd i ddathlu deng-mlwyddiant y Senedd; llunio Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd; cydweithio â llyfrgelloedd a Mentrau Iaith; a mentro y tu hwnt i Gymru at gymdeithas Cymry Llundain.
Yn ystod mis Ionawr a mis Mai 2016 cafodd Bardd Plant Cymru y fraint o fod yn rhan o daith Sioe Arbennig Tag a Rimbojam.
Dyma brosiect newydd a gynhelir ar y cyd rhwng Bardd Plant Cymru, Siarter Iaith Gymraeg, S4C ac Urdd Gobaith Cymru.
Bu’r ymgyrch yn llwyddiant ysgubol gyda dros 2000 o blant yn cymryd rhan ym mis Ionawr, a rhoddwyd cynlluniau ar droed i drefnu taith ddilynol ym mis Mai.
Fel un sy’n gystal cyflwynydd ag y mae hi’n fardd, nid yw’n syndod fod Anni wedi codi’r to mewn sawl man o Gymru, gan annog y plant i godi ar eu traed, gwaeddi nerth eu pennau a thorri ffiniau wrth ymdrin â geiriau.
Yn naturiol felly, mae Anni wedi cael rhagor o ysbrydoliaeth wrth gwrdd â channoedd o blant Cymru ac mae bellach wedi cyhoeddi ei chyfrol newydd Dim ond Traed Brain (Gwasg Gomer). Lansiwyd y gyfrol hon o gerddi yn ystod Yr Awr Gymraeg ar Twitter ar 18 Mai 2016 gyda fideo wedi ei greu gyda help y beirdd bach.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae blwyddyn gyntaf Anni Llŷn fel Bardd Plant Cymru wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac mae wedi rhoi stamp ei hun ar y prosiect.
"Gwireddodd yr hyn a wnaeth Aneirin Karadog ddarogan yn ei gerdd groeso drwy fod yn 'chwa o awyr iach', ac mae’r bwrlwm wedi sicrhau fod y prosiect yn parhau i ffynnu a rhoi llais i genhedlaeth newydd o Gymry.”
Mae ceisiadau gan ysgolion am ymweliad gan Fardd Plant Cymru yn llifo i mewn, a rhestr aros eisoes wedi ei chreu ar gyfer mis Medi ymlaen.
Mae’r fenter yn annog brwdfrydedd a hyder tuag at eiriau gyda dros 4000 o blant yn elwa o’r prosiect.
Gyda chynlluniau newydd ar droed yn cynnwys gweithdy byw ddigidol a thaith o gwmpas cestyll Cymru, mae’n argoeli y bydd ail flwyddyn Anni llawn cystal â’r gyntaf.