Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Mai 2016

Pryderon clwb rygbi Caernarfon am gŵn ar y meysydd chwarae

Mae Clwb Rygbi Caernarfon a Thîm Gorfodaeth Stryd Cyngor Gwynedd wedi dod at ei gilydd yn ddiweddar i daclo’r broblem o gŵn ar dir y clwb yn dilyn nifer o achosion ble y bu’n rhaid gofyn i bobl â chŵn adael ardal swyddogol oedd wedi ei benodi ar gyfer chwaraeon.

Mae’r gorchymyn gwaharddiad yn atal perchnogion cŵn rhag dod a’u hanifeiliaid anwes ar holl gaeau chwarae a chaeau chwaraeon yng Ngwynedd.

Fodd bynnag, mae rhai perchnogion yng Nghaernarfon wedi bod yn dewis anwybyddu’r arwyddion rhybudd ‘Dim cŵn’ ac yn mynd a’u cŵn i ardaloedd ble mae rygbi’n cael ei chwarae. 

Dywedodd Ann Hopcyn, Ysgrifennydd Mygedol Clwb Rygbi Caernarfon: “Mae’n hynod o rwystredig ein bod yn gorfod delio efo’r rhai sy’n anwybyddu’r arwyddion.

"Gall baw ci achosi peryg aruthrol i iechyd chwaraewyr, yn enwedig i’n haelodau ifanc sy’n hyfforddi yma’n aml.

“Mae 12 o’r 15 tîm yn rhai o lefel ieuenctid, felly mae hynny yn 250 o blant o Gaernarfon a’r dalgylch sy’n hyfforddi a chwarae ar y caeau yma yn aml.

"Buasem yn gwerthfawrogi cydweithrediad perchnogion cŵn i sicrhau diogelwch pob un o’r chwaraewyr.”

Meddai’r Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd: “Mae’n siomedig iawn clywed fod nifer fechan o berchnogion cŵn difeddwl yn bwrpasol anwybyddu Rhybuddion Rheoli Cŵn y Cyngor.

"Os ydynt yn caniatáu i’w cŵn fentro ar ardaloedd sydd wedi eu gwahardd, mae’n amlwg nad oes ganddyn unrhyw barch tuag at iechyd a llesiant eraill.

"Bydd y cyngor yn monitro’r sefyllfa yn ofalus dros yr wythnosau nesaf ac yn cymryd camau gorfodaeth pan fydd rhaid.”

Mae’n rhaid cofio mai'r rheswm pwysicaf i gŵn gael eu gwahardd o rhai safleoedd dynodedig yw oherwydd presenoldeb y parasit llyngyr sydd mewn baw ci a all fod yn hynod niweidiol i bobl, yn enwedig plant.

Mae Toxocariasis yn afiechyd sy’n digwydd pan mae wyau mwydyn toxocara canis yn cael ei drosglwyddo o gŵn i bobl trwy faw ci wedi ei heintio, neu bridd ble mae cŵn yn bresennol, a gall arwain at salwch neu ddallineb.

Gall y cyhoedd helpu trwy adrodd am y rhai sy’n gyfrifol wrth Dîm Gorfodaeth Stryd Cyngor Gwynedd yn ddienw ar 01766 771 000, neu ewch i’r dudalen ‘Adrodd ar Broblem’ ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru

 

LLUN: Warden Gorfodaeth Stryd Cyngor Gwynedd, Catrin Angharad Jones; Jonathan Neale, Swyddog Trefi Taclus Cyngor Gwynedd ac Ann Hopcyn, Ysgrifennydd Mygedol Clwb Rygbi Caernarfon

Rhannu |