Mwy o Newyddion
Angen cyfaddawd i ddiogelu ralio yng nghoedwigoedd Cymru medd AS
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi galw ar y corff sy’n gyfrifol am gynnal a chadw traciau coedwigaeth i ddod i gytundeb â’r Gymdeithas Chwaraeon Modur ynglŷn a’r gost o atgyweirio llwybrau ralio yng Nghymru, yng nghanol ofnau y byddai dyblu taliadau coedwigaeth yn peryglu dyfodol hir-dymor ralio yng nghoedwigoedd Cymru.
Mae nifer o etholwyr, busnesau lleol a sefydliadau sydd yn uniongyrchol ynghlwm â ralio yng nghoedwigoedd Cymru wedi cysylltu â’r Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd yn mynegi pryder fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi methu a dod i gytundeb cost â’r Gymdeithas Chwaraeon Modur ar gyfer tymor ralio 2016.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dyfynnu cost o dros £600,000 ar gyfer atgyweirio llwybrau coedwigaeth ar gyfer tymor ralio 2016 – sydd yn ddwbl yr hyn a dalodd Cymdeithas Chwaraeon Modur yn flaenorol. Mae hyn wedi arwain at ofnau y gall y cynnydd yma beryglu dyfodol ralio coedwigaeth, gan gynnwys cystadlaethau yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Mae ralio yng nghoedwigoedd Cymru yn rhoi hwb economaidd sylweddol i gymunedau gwledig, fel taglylch Dolgellau yn fy etholaeth i. Yn ystod cyfnod y rali, mae busnesau cyfagos yn elwa o’r prysurdeb gyda cystadleuwyr, marsialiaid a chefnogwyr y rali yn treulio diwrnod neu fwy yn yr ardal gan wario eu harian yn lleol.
“Amcangyfrifwyd fod ralio yng nghoedwigoedd Cymru werth oddeutu £15 miliwn i economi Cymru. Heb son am y budd economaidd sylweddol a ddaw yn sgil ralio yng Nghymru, mae gan Gymru gysylltiad hanesyddol â’r digwyddiad yma gan gynnal cymal y DU o Bencampwriaeth Rali y Byd.
“Mae gennyf bryderon mawr am y sefyllfa bresenol, sy’n rhoi dyfodol ralio coedwigaeth yng Nghymru yn y fantol. Tra fy mod yn cydnabod ei bod yn anodd darogan yr union gostau sy’n gysylltiedig â’r math yma o ddigwyddiad, rwy’n annog Cyfoeth Naturiol Cymru i gydnabod fod cynyddu costau atgyweirio tros gyfnod mor fyr gyda’r potensial i beryglu hyfwyedd ralio yng nghoedwigoedd Cymru.
“Deallaf fod yr Alban a Lloegr wedi dod i gytundeb ar drefniadau 2016 ers mis Ionawr. Rwy’n gobeithio bydd y ddwy ochr yn cyrraedd cytundeb ffafriol ac ymarferol sy’n adlewyrchu cyfraniad ralio i’r economi leol ac un sy’n ystyried y budd sylweddol i gymunedau a busnesau lleol yn sgil fath ddigwyddiad.”