Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Mai 2016

Ysgoloriaeth Gelf i Lea Sautin

Lea Sautin, sydd yn wreiddiol o Lanbedrog ym Mhen Llŷn, yw enillydd yr Ysgoloriaeth Gelf eleni.  Mae’r Ysgoloriaeth, sydd werth £2,000, yn cael ei gwobrwyo i’r gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng 18 – 25 oed.

Graddiodd Lea o adran beintio a phrintio Ysgol Gelf Glasgow ym Mehefin 2015, ac wedi pedair blynedd yn astudio yn yr Alban a chyfnod o brofiad gwaith mewn amgueddfa gelf gyfoes yn Ffrainc, mae bellach wedi dychwelyd i Gymru.

Dywedodd Lea: “Wrth wraidd fy ngwaith mae datblygiad y traddodiad chwedlonol yng Nghymru a’r ffordd mae’n fythol newid.

"Cafodd chwedlau fel y Mabinogi eu perfformio a’u hadrodd ar lafar am ganrifoedd cyn cael eu cofnodi ar bapur ac yna eu dehongli ymhellach drwy addasiadau, cyfieithiadau a darluniau.

"Wedi fy magu yn rhugl dairieithog mae gen i ddiddordeb mawr mewn datblygiadau a gwyrdroadau wrth symud o un iaith neu gyfrwng i’r llall.”

Yn 2015, enillodd Lea wobr goffa Euan Stewart a roddwyd gan Ysgol Gelf Glasgow am ragoriaeth fel myfyrwraig yn yr adran brintio.

Yn ogystal enillodd Wobr Goffa Eirian Llwyd am ddangos addewid yn y maes print.  Mae eisoes wedi arddangos ei gwaith yn Llundain, Glasgow, Paris, Caernarfon, Sir Efrog a Chaerdydd.

Beirniaid yr ysgoloriaeth oedd Gwenno Jones, Gareth Owen ac Anwen Bumby.  Dywedodd Gwenno: “Mi oedd y gwaith yn wefreiddiol a’r broses o greu wedi ei ysbrydoli gan hen hen straeon a sut maent yn newid ychydig bach bob tro maent yn cael eu hadrodd ar hyd y blynyddoedd. 

"Roedd yn amlwg ei bod wedi cyrraedd yn bellach na’r cystadleuwyr eraill yn ei hyfforddiant ac roedd yn ddarn o waith aeddfed iawn – yn gwybod yn iawn i pa gyfeiriad oedd y gwaith yn mynd.

"Roedd yn amlwg ei bod yn barod i gyflwyno ei gwaith i’r byd, a rhoi ei stamp ei hun ar y byd celfyddydol.”

Bydd Lea yn derbyn gwobr ariannol o £2,000 sydd yn cael ei roi trwy garedigrwydd Dr Dewi Davies a’i deulu. 

Ychwanegodd Lea: “Mae’n anrhydedd mawr ennill yr Ysgoloriaeth ond mi fydd hefyd o fudd mawr mewn sawl ffordd.

"Bydd yn fy ngalluogi i fuddsoddi mewn camera SLR o safon proffesiynol er mwyn cael arbrofi â lensys, ffocws a goleuo a chymryd ffotograffau o safon digon uchel i greu gwaith o raddfa mwy.”

Rhannu |