Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Mai 2016

Ffion Eleri yn ennill y Fedal Gelf

Ffion Eleri o Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn sydd wedi ennill y Fedal Gelf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint 2016.

Mae Ffion yn 18 oed ac yn ddisgybl Lefel A yn Ysgol y Creuddyn. Mae ganddi ddiddordeb mewn creu gwaith celf ers pan oedd yn blentyn ac mae’n cael ei hysbrydoli gan nifer o ffynonellau gan gynnwys diwylliant Cymreig, teulu a ffrindiau. 

Mae’r Fedal yn cael ei gwobrwy i’r darn unigol gorau o’r holl gystadlaethau o dan 19 oed yn yr Adran Celf, Dylunio a Thechnoleg.

Yn ôl Ffion, mae gwaith artistiaid megis Cefyn Burgess, Meistr y Ddefod yn seremoni’r Fedal Gelf, a Joseph Herman wedi dylanwadu ar y darn buddugol ac un o’r prif gyfryngau mae’n hoffi ddefnyddio yn ei gwaith yw’r peiriant gwnïo i greu darluniau.

Dywedodd: “Rwy’n hoffi defnyddio fy nghamera i gasglu lluniau gwreiddiol cyn mynd ati i greu gwaith celf.  Ar gyfer y gwaith arbennig yma, cefais fy ysbrydoli wrth astudio Hanes Cymru a hanes chwarelwyr a glowyr ar ddechrau’r ganrif diwethaf.

“Mae yna hefyd hanes o chwarelwyr a glowyr yn y teulu a rhoddodd hyn fwy o frwdfrydedd i mi ddilyn y thema yma.”

Mae Ffion yn gobeithio dilyn cwrs gradd mewn Celf a Dylunio ym mis Medi ac yn gobeithio dilyn gyrfa yn y maes yn y dyfodol.

 

Rhoddir y Fedal Gelf eleni gan Rhian Hughes a Marc Jones, er cof am eu rhieni Alan Vic a Nerys Jones. 

Rhannu |