Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Mai 2016

George yn cipio’r Fedal Gyfansoddi

George Dolan, sydd yn 18 oed ac ar ei flwyddyn olaf yn Ysgol Brynhyfryd, yw enillydd Y Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint 2016.

Mae’r darn buddugol, ‘Agorawd i’r Tylwyth Teg’, yn ensemble chwyth gyda thelyn sydd, yn ôl y beirniad Gareth Glyn, yn “gyfuniad anarferol ac effeithiol”.  Mae hefyd yn disgrifio George fel “cyfansoddwr galluog, yn llawn syniadau”.

Mae George yn dod o Ruthun a’r flwyddyn nesaf mae’n gobeithio mynd i Brifysgol Huddersfield i astudio Cerddoriaeth.  Mae cerddoriaeth yn rhoi pleser mawr iddo ac ar wahân i gyfansoddi, mae hefyd yn mwynhau canu’r sacsoffon, recorder a’r obo.  Bydd yn cystadlu ar lwyfan yr Urdd eleni yn yr unawd chwythbrennau ac fel aelod o gerddorfa’r ysgol.

Dywedodd George: “Fy uchelgais yw cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilmiau a’r teledu ond fy mwriad ar hyn o bryd, gan fy mod i’n dod o Ruthun, yw ceisio cyfansoddi cân fuddugol i gystadleuaeth yr Eurovision!”    

Ffug enw George oedd ‘Boi Sacsoffon’ a cyflwynwyd saith darn o waith yn y gystadleuaeth eleni. 

Yn ôl Gareth Glyn, beirniad y gystadleuaeth: “Dyma’r cyfansoddiad oedd yn sefyll allan o ran gwreiddioldeb a dyfeisgarwch. 

"Mae’r newidiadau cymeriad sydyn o adran i adran yn annisgwyl i ddechrau, hyd nes iddi ddod yn glir mai agorawd i opera neu sioe gerdd ydy hon sy’n cyflwyno amrywiol themâu o’r cyfanwaith.” 

Yn ail roedd Siriol Jenkins o Ysgol y Preseli ac yn drydydd roedd Louie McIver o Ysgol Penarlâg.  Noddwyd y seremoni gan Gyngor Sir y Fflint ac fe roddir y wobr gan Hywel Wyn Edwards.

Rhannu |