Mwy o Newyddion
Telynor o safon byd-eang yn dychwelyd i ganolbarth Cymru i roi cyngerdd ar gyfer elusen iechyd meddwl
Bydd telynor rhyngwladol adnabyddus yn dychwelyd i’w wreiddiau yng Nghanolbarth Cymru i berfformio cyngerdd ar ei ben ei hun, er budd elusen sy’n cynorthwyo i atal salwch meddwl difrifol ymysg pobl ifanc.
Mae Ieuan Jones wedi chwarae’r delyn i deuluoedd brenhinol a chynulleidfaoedd ar draws y byd yn ystod ei yrfa broffesiynol ddisglair, a bydd yn cyflwyno detholiadau o’i albwm ddiweddaraf. Mae honno’n cynnwys ei addasiad ar gyfer y delyn, am y tro cyntaf erioed, o gyfansoddiadau piano Schubert.
Ac mae’n gobeithio y bydd yn gallu chwarae telyn newydd, sy’n cael ei chreu yn arbennig ar ei gyfer yn yr Eidal.
Roedd Ieuan yn arfer byw yn yr ardal cyn symud ei ganolfan i Lundain, a bydd yn ôl ym mhentref prydferth Aberriw, ger y Trallwng ym Mhowys, nos Wener 17 Mehefin ar gyfer y cyngerdd i godi arian i Reknidle, elusen gyda’i chanolfan yn lleol.
Fe sefydlwyd Rekindle yn 1998 gan Jenny a Neville Thomas, sy’n gyfeillion oes i Ieuan. Bydd yn cefnogi pobl ifanc ac oedolion sy’n dioddef o salwch meddwl neu mae perygl iddynt ddioddef ohono.
Bydd Rekindle yn gweithio o’i chanolfan yn y Drenewydd, yn darparu rhaglen adfer wedi’i theilwra i anghenion yr unigolyn a gyda’r nod o ddatblygu sgiliau bywyd pobl, adfer eu hunan barch a’u cael i ddechrau ar weithgareddau ystyrlon.
Bydd y cyngerdd yn digwydd mewn lle godidog, sef eglwys hanesyddol Beuno Sant yn Aberriw, sydd wedi’i rhestru fel Graddfa II. Bydd y cyngerdd yn cefnogi’n benodol y gwasanaeth Small Steps gan yr elusen hon, sy’n unigryw yng Nghymru ac yn arbenigo mewn atal salwch meddwl difrifol rhag datblygu mewn pobl fregus 16-25 oed.
Ar ôl hynny bydd Ieuan yn perfformio ddydd Sul 19 Mehefin mewn cyngerdd yng Ngŵyl Ynys Manaw, lle mae wedi bod o’r blaen, gyda’r bariton Benjamin Appl.
Mae Ieuan yn fab fferm o Fathrafal ger Meifod, a dechreuodd ei gariad at y delyn pan oedd yn chwech oed. Erbyn cyrraedd 13 oed ef oedd aelod ieuengaf Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru.
Tra roedd yn dal yn fyfyriwr yn y Coleg Cerdd Brenhinol enwog yn Llundain, cafodd ei ddewis i fod yn delynor preswyl yn Nhŷ’r Cyffredin yn Llundain – a bu’n dal y swydd honno am 13 mlynedd. Wedyn aeth ymlaen i wneud ymddangosiadau concerto gyda rhai o gerddorfeydd gorau’r byd.
Yn fuan ar ôl gadael y coleg, cafodd wahoddiad i roi perfformiad preifat ar y delyn i’r ddiweddar Fam Frenhines yn ei chartref yn Windsor. Roedd y cysylltiad brenhinol yn parhau yn gynharach eleni pan gyflwynodd Tywysog Cymru Gymrodoriaeth y Coleg Brenhinol iddo. Mae Ieuan yn Athro’r Delyn yn y coleg hwnnw ers 1997.
Yn ystod ei yrfa broffesiynol ddisglair mae Ieuan wedi chwarae mewn dros 25 o wahanol wledydd, yn cynnwys yr Ariannin, Awstralia a Hong Kong, ac wedi ymddangos gyda rhai o brif gerddorfeydd y byd.
Mae hefyd wedi gwneud llawer o ymddangosiadau cartref mewn mannau fel y Royal Albert Hall yn Llundain, y Bridgewater Hall ym Manceinion a Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd. Roedd y rhaglenni’n cynnwys gwaith na fydd i’w glywed lawer ar y delyn, ac yn aml gydag offerynnau eraill fel y ffliwt, feiolin ac fel rhan o bedwarawdau telyn a llinynnol.
Mae ef hefyd yn aelod o Fwrdd Cysylltiedig yr Ysgol Gerdd Frenhinol (ABRSM) o arholwyr diploma, a bydd yn ymddangos yn rheolaidd ar banelau cystadlaethau rhyngwladol ym mhob rhan o’r byd.
Mae ei gynulleidfaoedd wedi cynnwys pobl frenhinol, llysgenhadon a phrif weinidogion. Erbyn hyn mae Ieuan yn byw yn Battersea, Llundain, ac wedi gwneud hanner dwsin o recordiau hir, gyda’r olaf ohonynt yn cynnwys naw trac o waith Franz Schubert ar gyfer y piano. Ieuan ei hunan sydd wedi trawsgrifio gwaith Schubert i fod ar gyfer y delyn, i ddangos i gynulleidfa ehangach pa mor hyblyg yw’r offeryn. Dyma’r tro cyntaf i wneud hyn ar gyfer telynor sy’n chwarae ar ei ben ei hunan.
Dywedodd Ieuan: “Byddaf yn chwarae rhannau o fy albwm newydd yn ystod fy nghyngerdd budd Rekindle yn Aberriw ar 17 Mehefin.
“Rwyf wedi recordio hon am fy mod y hoffi gwneud rywbeth gwahanol. Mae byd y delyn yn fyd bychan gyda dim ond dewis cyfyngedig o waith gwreiddiol. Ers i mi adael y coleg rwyf wedi ceisio gwthio’r ffiniau a chwarae’r math o gerddoriaeth na fyddech yn ei disgwyl ar y delyn.
“Doedd hi ddim yn hawdd gwneud hynny ond rwyf wedi trawsgrifio naw darn gan Schubert oedd wedi’u hysgrifennu’n wreiddiol ar gyfer y piano, am y tro cyntaf erioed ar gyfer telynor ar ei ben ei hunan.
“Bydd perfformio’r darnau gan Schubert hefyd yn gyfle delfrydol i gyflwyno fy ngherddoriaeth i’r nifer fawr o bobl rwyf yn eu hadnabod yn yr ardal lle roeddwn yn byw gynt, cyn i fy ngyrfa fynd â mi i Lundain.
“Rwyf yn ddiweddar wedi archebu fy nhelyn newydd cyntaf mewn dros 30 mlynedd, sy’n cael ei gwneud yn arbennig ar fy nghyfer yn yr Eidal.
“Mae’n costio llawer o ddegau o filoedd o bunnau ac rwyf yn croesi fy mysedd y bydd yn cyrraedd mewn pryd ar gyfer y cyngerdd, lle byddaf hefyd yn chwarae ychydig o ddarnau Cymreig traddodiadol, sy’n boblogaidd gydol yr amser.”
A dywedodd hefyd: “Rwyf yn edrych ymlaen lawer at fod yn ôl yng Nghanolbarth Cymru i’r cyngerdd hwn ar gyfer elusen arbennig iawn wedi’i sefydlu gan Jenny a Neville Thomas, pobl rwyf wedi’u hadnabod ers roeddwn yn ifanc iawn.
“Bydd hefyd yn dda bod yn ôl yn ardal fy nghartref ar gyfer cyngerdd, gan ei bod gryn dipyn o flynyddoedd ers i mi wneud yr un diwethaf i Rekindle yn Eglwys Aberriw.”
Mae Jenny Thomas wedi gwasanaethu fel Uchel Siryf Powys yn 2010/2011, a dywedodd hi: “Mae Ieuan yn garedig iawn yn gwneud y cyngerdd yma i ni yn Eglwys Beuno Sant.
“Rwyf yn ei adnabod ers roedd yn fachgen, yn byw heb fod ymhell oddi wrthyf yn Aberriw, ac rwyf wedi dilyn ei yrfa gyda diddordeb.
“Mae o wedi ysbrydoli llawer o delynorion ifanc yn yr ardal a bydd pawb yn falch iawn o’i weld eto.
“Roedd ei gyngerdd diwethaf i Rekindle yn yr un eglwys tua 10 mlynedd yn ôl, ac yn llwyddiant mawr. Mae’r eglwys yn gallu dal hyd at 180 o bobl ac rydym ni’n gobeithio y bydd yn llawn unwaith eto.
“Mae hefyd yn gyffrous iawn y gallai fod yn defnyddio’i delyn newydd am y tro cyntaf yn ein cyngerdd ni. Bydd gwin a canapes cyn hynny am 6pm, a’r gerddoriaeth yn dechrau am 7.30pm.”
Ac ychwanegodd Jenny: “Mae’n ffantastig y bydd yr arian sy’n cael ei godi yn y cyngerdd yn benodol yn cefnogi’n prosiect Small Steps ni, sydd hyd yma wedi bod yn anhygoel o lwyddiannus.
“Rhyngddynt, mae’r ddau weithiwr prosiect sydd gennym wedi cefnogi dros 100 o gleientiaid ac mae llawer mwy yn dod atom eto.
“Rydym yn credu bod bwlch mawr yn bodoli mewn gwasanaethau i bobl ifanc sydd â thrafferthion iechyd meddwl yng ngogledd Powys, a’n bod ni’n llenwi’r bwlch hwnnw.
“Does dim arian statudol yn dod i’n helusen ni, felly byddwn yn dibynnu’n llwyr ar roddion ac ymddiriedolaethau elusennol.
“Cafodd Rekindle ei sefydlu gennyf fi a fy ngŵr Neville a’r cyn Aelod Seneddol dros Drefaldwyn, Alex Carlile, a ddaeth yn Arglwydd Carlile o Aberriw, ac erbyn hyn ef yw ein Noddwr.
Mae albwm newydd Ieuan, Schubert by Ieuan Jones, ar label Claudio, rhif catalog CR60322.
Mae tocynnau i’r cyngerdd yn £15 ac ar gael oddi wrth: Christine Cookson 01686 640244, Beryl Vaughan 01938 820775, Jenny Thomas 01686 951515, neu Meriel Thomas 07834 834085.