Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Mai 2016

Ysgrifennydd yr Economi yn pennu y blaenoriaethau cychwynnol

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi dweud mai un o’i flaenoriaethau cyntaf fydd trafod â busnesau a phartneriaid allweddol ynghylch eu barn am ddatblygu strategaeth economaidd newydd i Gymru.

Wrth siarad yng Nghinio Blynyddol CBI Gogledd Cymru, dywedodd  Ysgrifennydd newydd yr Economi y byddai’n dechrau gweithio ar unwaith ar gynlluniau ar gyfer y strategaeth, ac y byddai’n galw ar y gymuned fusnes i gydweithio’n agos ag ef.

Meddai Ken Skates: “Mae’n fraint enfawr i gael fy mhenodi yn Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith ac rwyf wrth fy modd ac yn frwdfrydig iawn am yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau.

“Fy uchelgais yw gwella economi Cymru, dod yn fwy llewyrchus, ac yn y pen draw sicrhau mwy o sicrwydd ariannol i fusnesau ac unigolion ledled Cymru.  Rwyf am weithredu o blaid busnesau mewn cymdeithas deg.

“Rwy’n cydnabod, wrth gwrs, na allaf wneud hyn ar fy mhen fy hun.

"Bydd perthynas weithio agos gyda’r CBI, FSB, y gymuned fusnes ehangach ac undebau llafur yn allweddol, ac rwy’n edyrch ymlaen at gydweithio ar ystod eang o faterion, gan gynnwys ein cynlluniau i ddatblygu strategaeth economaidd newydd.

“Nid oes amheuaeth ein bod yn adeiladu ar sylfeini cryf iawn.

"Mae lefelau cyflogaeth yng Nghymru wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed, a’n cyfradd ddiweithdra yn is na gweddill Prydain; rydym yn parhau i ddatblygu mentrau newydd cryf a Mentrau Bach a Chanolig, ac rydym yn buddsoddi yn fewnol fwy nag erioed.

“Mae hyn yn ein rhoi mewn safle da iawn i ddatblygu mwy o fentrau cartref sy’n cael eu hysgogi gan arloesedd, yn ogystal â denu mwy o fusnesau ledled y byd.”

Aeth Ysgrifennydd yr Economi i ymweld â safle Porth y Gogledd hefyd o fewn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, ble y mae’r gwaith adeiladu bellach wedi dechrau.

Meddai Ken Skates: “Mae’n wych gweld bod ffyrdd ymyl yn cael eu hadeiladu ym Mhorth y Gogledd.

"Bydd y gwaith yn agor y safle pwysig hwn, sydd mewn safle strategol ar gyfer datblygiad masnachol enfawr, gan ddarparu’r catalydd ar gyfer amrywiol gyfleoedd cyffrous i fuddsoddi fydd yn dod â manteision gwirioneddol i economi Gogledd Cymru.”   

 

Rhannu |