Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Mai 2016

Lansio'r comic gwreiddiol Cymraeg cyntaf i blant ers degawdau

Bydd comic newydd sbon Mellten yn lansio ar stondin Y Lolfa yn Eisteddfod yr Urdd yn Sir y Fflint am 12 o’r gloch, dydd Llun y 30ain o Fai yng nghwmni’r golygydd a’r cartwnydd Huw Aaron.

Comic newydd chwarterol i blant Cymru yw comic Mellten.

Wedi ei anelu at blant rhwng 7 ac 13 oed yn bennaf, dyma’r comic Cymraeg gwreiddiol cyntaf i’w gyhoeddi ers degawdau.

Wedi ei olygu gan un o gartwnwyr gorau a mwyaf gwreiddiol Cymru, Huw Aaron mae Mellten yn cynnwys cyfraniadau gan amryw o artistiaid, cartwnwyr ac awduron.

Rhwng y tudalennau ceir casgliad o straeon cyffrous mewn amrywiaeth o genres, cymeriadau gwreiddiol, posau, jôcs, cystadlaeuthau a a chyngor ar sut i greu comics a chartwnau eich hun.

"Y syniad oedd creu rhywbeth newydd a gwreiddiol i blant fyddai ddim ond ar gael yn y Gymraeg," meddai’r golygydd Huw Aaron.

"Bydd pwyslais ar straeon newydd, gafaelgar ac arlunio bywiog a lliwgar i loni, dychryn, denu, sbarduno ac achosi plant i chwerthin ac i gipio eu dychymyg.

"Roeddwn i hefyd am geisio creu rhyw fath o gymuned parhaus y gallai plant ymwneud ag ef," ychwanegodd.

Bydd rhifyn newydd o Mellten yn ymddangos pob tri mis gyda’r ail rifyn ar gael ar Fedi’r 1af. Ond, bydd yr hwyl yn parhau ar y wefan gyda cynnwys newydd yn cael ei ychwanegu yn wythnosol.

Ymhlith y tudalennau ceir cymeriadau cofiadwy fel Gwil Garw, arwr o oes cyn hanes sydd wrth ei fod yn casglu ac ymladd anghenfilod, pêl-droediwr gorau’r byd - Gari Pêl, Capten Clonc - arwr hardda’r bydysawd, Bloben a Iola, y peilot ifanc sy’n breuddwydio am ennill Cystadleuaeth Rali'r Gofod ond mae'n styc ar blaned Cymru Newydd heb na chriw na llong ofod..

Bydd modd prynu copiau unigol o gomic Mellten neu gellir tanysgrifio am £8 y flwyddyn drwy’r wefan, ysgolion neu siopau llyfrau lleol.

Bydd rhifyn cyntaf comic Mellten ar gael o ddydd Llun y 30ain o Fai ymlaen. 

Rhannu |