Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Mai 2016

Band Pres Llareggub yn canu anthem digwyddiadau S4C eleni

Bydd ffilm hyrwyddo newydd S4C yn dathlu bod y sianel yn darlledu o holl brif wyliau’r haf yng Nghymru eleni - gyda chyfeiliant cerddorol hwyliog fersiwn Band Pres Llareggub o'r gân 'Mae'n Wlad i Mi'.

Daeth y gân yn enwog yng Nghymru yn 1966 pan wnaeth y ddeuawd gwerin Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones recordio addasiad Cymraeg o gân y canwr gwerin Americanaidd Woody Guthrie, 'This Land Is Your Land'.

Hanner cân mlynedd ers recordio 'Mae'n Wlad i Mi', bydd Band Pres Llareggub yn dod a'r gân i amlygrwydd eto, er mwyn dathlu digwyddiadau haf ar S4C.

Bydd y Sianel yn darlledu o Eisteddfod yr Urdd yn Sir y Fflint o ddydd Llun, 30 Mai tan ddydd Sadwrn, 4 Mehefin. Bydd S4C hefyd yn darlledu'r holl gyffro o'r digwyddiadau canlynol: Eisteddfod Llangollen (5- 10 Gorffennaf), Y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd (18 -21 Gorffennaf) Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni (29 Gorffennaf - 6 Awst 2016.)

Yn ystod ffilm hyrwyddo S4C bydd Band Pres Llareggub yn ymweld â'r Fflint, Llanelwedd, Llangollen a'r Fenni. Yn y ffilm mae'r band yn canu eu hofferynnau pres, ac fel arwydd gobeithiol ar gyfer yr holl ddigwyddiadau mae'r haul yn gwenu ym mhob lleoliad!

Pan aeth Band Pres Llareggub i ffilmio yn y Fflint, cafodd disgyblion o'r ysgol leol, Ysgol Uwchradd y Fflint, ymuno yn y ffilmio. Byddwn yn gweld plant blwyddyn 7 ac 8 yn yr ysgol yn dawnsio gyda'r band, mae'r ysgol wedi'i lleoli gyferbyn â maes Eisteddfod yr Urdd eleni ym Mynydd y Fflint. 

Mae Owain Gruffudd Roberts sy'n canu'r trombôn yn Band Pres Llareggub, wrth ei fodd fod y band yn cymryd rhan yn ffilm hyrwyddo S4C.

"Roedd o'n brofiad hwyliog. Dw i'n gobeithio fod yr bywiogrwydd wedi dod drosodd yn y ffilm! 'Da ni'n cael dipyn o hwyl fel band, felly roedd hi'n braf gwneud rhywbeth bywiog i groesawu'r haf,” meddai Owain Gruffudd Roberts.

Meddai Glyn Roberts Uwch-gynhyrchydd Trêls, S4C: "Mae Band Pres Llareggub yn adlewyrchu holl egni digwyddiadau haf ledled Cymru (ac yn perfformio yn y mwyafrif ohonyn nhw hefyd!).

"Felly mae’n briodas cwbl naturiol a hwyliog rhwng y gweledol a’r synau, yr hen a’r newydd wrth i ni drio cyfleu’r holl ddathlu sy’n digwydd o’r de i’r gogledd yng Nghymru yr haf hwn. A diolch i bawb ymhob lleoliad, yn enwedig y plant, am eu brwdfrydedd a chefnogaeth."

Bydd Owain, 32 oed sy'n wreiddiol o Fangor ond bellach yn byw yn Llundain yn gigio ar draws Prydain gyfan dros yr haf gyda Band Pres Llareggub. Bydden nhw hefyd yn perfformio stondin S4C yn Eisteddfod yr Urdd yn y Fflint yr wythnos nesaf, ac yn Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni.

"Roedd hi'n brofiad gwahanol i ni ganu'r gân 'Mae'n Wlad i Mi', achos 'da ni fel arfer yn gwneud trefniadau ar gyfer caneuon hip hop.

"Ond roedd canu cân sy'n nes at gospel yn brofiad arbennig, gan ei fod o'n neis cael gwahaniaeth i'n pethau arferol ni.

"Mae hi'n gân hollol syml, hawdd i'w hadnabod, mwy trwm na hip hop, ac yn hynod adnabyddus ers fersiwn Woody Guthrie. Dw i'n edrych ymlaen i ganu'r gân mewn digwyddiadau ar draws Cymru eleni!" 

Rhannu |