Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Mai 2016

Meithrin cenhedlaeth newydd o siaradwyr Cymraeg

Cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru yw ‘Cymraeg i Blant’ sy’n canolbwyntio ar gynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg ymhlith plant oedran meithrin.

Rheolir y cynllun ar y cyd rhwng Mudiad Meithrin a Llywodraeth Cymru.

Bydd y Llywodraeth yn ymgymryd â’r gwaith hyrwyddo cenedlaethol trwy nifer o bartneriaid, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, tra bod y Mudiad yn cynnal gweithgareddau ar lefel leol.

Plethir gwaith ‘Cymraeg i Blant’ gyda gwaith ehangach y Mudiad er mwyn sicrhau siwrne gofal/addysg o’r crud i’r ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Meddai prif weithredwr Mudiad Meithrin, Dr Gwenllïan Lansdown Davies: “Yn syml iawn prif nod y cynllun yw cynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg trwy gynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i rieni, darpar rieni a’u teuluoedd ar fuddion addysg Gymraeg a chyflwyno’r Gymraeg yn gynnar i’w plant.

"Gwyddom fod addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg yn gwbl allweddol i gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg a chynta’ i gyd mae’r plentyn bach yn clywed y Gymraeg, gorau i gyd."

Ategodd y Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies AC: “Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru a Mudiad Meithrin yn cydweithio ar raglen newydd ‘Cymraeg i blant’ er mwyn annog a chefnogi teuluoedd i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’u plant.

"Fel rhiant, rwy’n gwybod bod rôl allweddol gan rieni i’w chwarae yn natblygiad ieithyddol ac addysg eu plant. Bydd y cynllun hwn yn gwneud cyfraniad pwysig i’n nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg drwy gynyddu nifer y plant sy’n siarad Cymraeg ac yn cyrraedd addysg Gymraeg.”

Manylion y cynllun yn fras

Cyflogir rhwydwaith o swyddogion i weithio gyda rhieni, darpar rieni, teuluoedd a phartneriaid yn yr ardaloedd isod. Bydd gwaith ‘Cymraeg i Blant’ o ddydd i ddydd yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Sesiynau teuluoedd - bydd y sesiynau yn cynnig rhaglen o weithgaredd penodol, pwrpasol a defnyddiol i ddarpar rieni, rhieni newydd a’u teuluoedd er mwyn rhannu gwybodaeth a chynnig cefnogaeth ynglŷn â buddion addysg Gymraeg. Rhoddir pwyslais yn y sesiynau ar ‘baratoi'r plentyn’ drwy rannu gwybodaeth ar fagu plant a’u paratoi at dderbyn gofal ac addysg. Yn ogystal rhoddir pwyslais ar ddefnyddio’r dechneg ‘Ymwybyddiaeth Ofalgar’ sy’n gynyddol boblogaidd ar draws y byd yn y sector addysg. Cynigir fod ioga babis/plant yn gyfrwng ymarferol i gyflawni’r elfen yma o’r gwaith. Gall hyn ddigwydd yn y cylch Ti a Fi ac fel arall.
  • Cyflwyno ‘Cymraeg i’r Teulu’ - bydd y cynllun yn cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol er mwyn datblygu ymhellach y rhaglen ‘Cymraeg i’r Teulu’ a darpariaethau cefnogol eraill.
  • Gweithio mewn partneriaeth ar lawr gwlad - bydd y swyddogion yn gweithio mewn partneriaeth gydag ystod o bartneriaid cenedlaethol a lleol yn cynnwys Yr Urdd, Merched y Wawr, Mentrau Iaith Cymru, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Clybiau Ffermwyr Ifanc, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Mumsnet, NCT, Dechrau’n Deg er mwyn rhannu gwybodaeth ynglŷn â ‘Cymraeg i Blant’ a chodi ymwybyddiaeth o fanteision gofal ac addysg Gymraeg.
  • Cynllunio Strategol - bydd y cynllun yn cefnogi amcanion Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg yr Awdurdodau Lleol drwy gyfrannu at y gwaith cynllunio ar lefel leol a strategol. Yn yr un modd, rhennir gwybodaeth gyda darpar rieni a rhieni newydd am fuddion gofal ac addysg Gymraeg trwy gydweithio strategol gyda bydwragedd, ymwelwyr iechyd a’r proffesiwn iechyd a bydd ffolderi beichiogrwydd, cardiau sgan, llyfrynnau magu plant ayyb yn cynnwys negeseuon ‘Cymraeg i Blant’.

Meddai Dinah Ellis, Rheolwr Cenedlaethol ‘Cymraeg i Blant’: “Mae’r Gymraeg yn llai tebygol o gael ei defnyddio o fewn teuluoedd lle mai dim ond un rhiant/gofalwr sy’n siarad Cymraeg.

"Mae annog trosglwyddiad iaith o’r rhiant i’r plentyn yn allweddol felly a gwnawn hyn drwy sicrhau ystod o weithgareddau hwyliog cymunedol sy’n cefnogi defnydd o’r Gymraeg."

Rhannu |