Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Mai 2016

James Richards sy’n cynrychioli Cymru yn Fenis Wales in Venice 2017

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi mai’r artist James Richards sydd wedi’i ddewis i gynrychioli Cymru yn Fenis Wales in Venice 2017 yn Arddangosfa Gelf Ryngwladol rhif 57 yn Biennale Fenis rhwng 13 Mai a 26 Tachwedd 2017.

Y cyflwyniad hwn, wedi’i guradu gan Chapter - sef comisiwn i gynhyrchu cyfres o weithiau newydd, uchelgeisiol, gwreiddiol ac ar raddfa fawr - yw’r tro cyntaf i’r artist dderbyn comisiwn o bwys mewn biennale rhyngwladol.

Mae gan Richards bresenoldeb amlwg ar y llwyfan celfyddydol yn y DU ac mae’n sefydlu enw da iddo ei hun yn gyflym ar y llwyfan rhyngwladol.

Derbyniodd gymeradwyaeth ar gyfer ei arddangosfa yn Oriel Chisenhale yn 2011, ei enwebiad ar gyfer Gwobr Turner 2014 a’i arddangosfa bresennol yn y British Art Show 8.

Digwydd y cyfle hwn ar adeg a all fod yn drobwynt iddo o ran atgyfnerthu ei grefft ar un o lwyfannau rhyngwladol pwysicaf celfyddyd weledol - Biennale Fenis.

Mae diddordeb yr artist yn y posibilrwydd o ddod o hyd i’r personol yng nghanol anrhefn y cyfryngau torfol.

Cyfuna fideo, sain a delweddau llonydd i greu gosodiadau a digwyddiadau byw.

Yn ei waith, defnyddia storfa fideo sy’n tyfu o hyd; gwelir tameidiau o sinema, gweithiau gan artistiaid eraill, darnau o ffilmiau gan gamerâu personol, lluniau niwlog teledu ganol-nos a ffrwyth gwaith ei ymchwil mewn archifau.

Mewn gosodiadau wedi’u rhoi at ei gilydd yn ofalus, cyfunir ystyriaethau cerfluniol, acwstig, cerddorol a churadurol mewn gweithiau hynod o angerddol. Mae profi a theimlo gweithiau Richards cyn bwysiced â’u gweld.

Mae’r comisiwn yn gyfle i Ganolfan Gelfyddydol Chapter ychwanegu at lwyddiannau ei rhaglen gelfyddyd weledol, sy’n enwog am ei safon a bod yn arloesol a rhyngwladol.

Mae’n arwyddocaol i ganolfan Chapter (a gafodd gryn ddylanwad ar yr artist ei hun) ei bod yn cynnal prosiect gyda’r artist yn ei dref enedigol ac ar blatfform rhyngwladol yn Fenis.

Cafodd James Richards ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd ac mae’n byw erbyn hyn ym Merlin.

Astudiodd gwrs sylfaen yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd a threuliodd gyfnod preswyl yn Oriel G39 Caerdydd yn 2002 a chydweithiodd yn rheolaidd gyda Kim Fielding/Tactile Bosch.

Gyda’i wreiddiau’n ddwfn yn y Brifddinas, mae gan Richards ddealltwriaeth gynhenid o beth yw bod yn artist sy’n gweithio yng Nghymru ac mae mewn sefyllfa dda i fod yn gatalydd i ddenu’r sylw i’w famwlad.

Ar achlysur ei ddewis ar gyfer Cymru yn Fenis Wales in Venice 2017, dywedodd James Richards: “Mae’n fraint ac anrhydedd cynrychioli Cymru yn Biennale Fenis 2017.

"Rwyf wedi fy synnu a’m gwefreiddio gan y fraint ac wedi fy nghyffroi i gael dechrau ar waith newydd ar gyfer y digwyddiad unigryw hwn.”

Dywedodd Hannah Firth, Cyfarwyddwr y Celfyddydau Gweledol a Datblygiad y Rhaglen, Chapter, a churadur Cymru yn Fenis 2017: “James Richards yw un o artistiaid mwyaf gwreiddiol a chyffrous ei genhedlaeth ac rydym wrth ein bodd i gael gweithio gydag ef i gomisiynu swmp newydd o waith i’w gyflwyno yn Fenis.

“Rydym wedi paratoi dull cryf o ran cydweithio ac rydym yn gweithio gydag ystod o sefydliadau yng Nghymru i greu’r arddangosfa gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac oriel bwysig artistiaid G39 a fydd yn cynnig rhaglen integredig ar gyfer datblygiad proffesiynol ac ymwneud â chyhoedd Cymru.

“Bydd cyfle i gynulleidfaoedd Cymru brofi dwy arddangosfa gysylltiol o waith James yn Chapter: sioe grŵp wedi’i threfnu gan yr artist sy’n cynnwys gweithiau gan artistiaid o Gymru a thramor, ac yna’r arddangosfa Cymru yn Fenis ei hun sy’n teithio i Gaerdydd yn gynnar yn 2018.”

Dywedodd Phil George, Cadeirydd, Cyngor Celfyddydau Cymru:  “Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wrth ein bodd i gael cyflwyno James Richards yn Biennale Fenis yn 2017.

"Mae James yn artist cyffrous ac arwyddocaol o Gymru a chlywir sôn amdano ar hyd Ewrop ac ymhellach.

"Am hynny, ef yw’r dewis perffaith i gynrychioli’n gwlad mewn Biennale rhyngwladol mor fawreddog.

“Bydd ei osodiad yn dod â’i dalent nodedig a hynod at sylw orielau a churaduron o dros y byd i gyd a bydd yn dangos yr arloesedd yng nghreadigrwydd cyfoes Cymru i filoedd o ymwelwyr â’r Biennale.”

Mae presenoldeb Cymru yn Fenis wedi bod yn rhan annatod o’r calendar celfyddydol byth ers i Gymru ddatgan ei phresenoldeb yn arlwy’r Biennale Rhyngwladol yn 2003.

Mae’r Biennale wedi cynnig platfform gwych i gelfyddyd weledol o Gymru, yn cryfhau ei phroffil rhyngwladol ac yn dod â hyn yn ôl i Gymru mewn arddangosfeydd teithiol a mentrau cysylltiedig megis y rhaglen Goruchwylio Arbennig ac adnoddau addysgiadol a sgyrsiau.

Rhannu |