Mwy o Newyddion
Vaughan Gething yn talu teyrnged i nyrsys a bydwragedd Cymru
Wrth siarad ym mhumed cynhadledd arddangos Prif Swyddog Nyrsio Cymru yng Nghaerdydd ddoe, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething dalu teyrnged i nyrsys a bydwragedd Cymru, gan alw am welliant pellach i ansawdd a phrofiad y gofal i bawb sy'n defnyddio'r gwasanaeth iechyd.
Thema cynhadledd eleni oedd: 'Ysbryd Nyrsio – cadw'r cysylltiad’. Roedd yn canolbwyntio ar ddathlu rhagoriaeth drwy rannu arfer gorau, gan edrych ar yr her o ymestyn sgiliau nyrsys a sicrhau bod gofal personol o ansawdd uchel yn cael ei roi i'r rheini sydd ei angen.
Ymysg y gynulleidfa roedd nyrsys cofrestredig; bydwragedd; nyrsys iechyd y cyhoedd arbenigol yn y gymuned; gweithwyr cymorth gofal iechyd; myfyrwyr; academyddion a chynrychiolwyr o undebau llafur proffesiynol.
Dywedodd Vaughan Gething wrth siarad ar ôl y gynhadledd: "Nyrsys yw curiad calon y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
"Mae gan bawb sy'n rhan o'n gwasanaeth iechyd rôl werthfawr i'w chwarae, ond mae nyrsys wirioneddol ar y rheng flaen.
Fel y mae adroddiad diweddar Ymddiriedolaeth Nuffield yn awgrymu, mae'n hanfodol datblygu eu sgiliau i sicrhau y gall y gwasanaeth iechyd fodloni gofynion sy'n newid o ran gofal cleifion.
“Pan fyddaf yn ymweld â byrddau iechyd ar hyd a lled y wlad dros y misoedd sydd i ddod, byddaf yn edrych ymlaen at wrando ar bawb sy'n gweithio yn y proffesiwn, yn enwedig nyrsys a bydwragedd.
"Mae'n werthfawr iawn i mi wrando ar eu profiad uniongyrchol o ddarparu gofal iechyd yng Nghymru.
"Hoffwn ddiolch i'r Prif Swyddog Nyrsio am fy ngwahodd yma heddiw i siarad yn ei chynhadledd.
"Dyma fy wythnos gyntaf yn y swydd, ac mae'n fraint ac yn anrhydedd cael fy mhenodi iddi.
"Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n ddiflino i wella ansawdd a phrofiad y gofal i bawb sy'n defnyddio'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru."
Dywedodd y Prif Swyddog Nyrsio, yr Athro Jean White: "Roeddwn wrth fy modd bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gallu dod yma heddiw i siarad yn y gynhadledd bwysig hon.
"Roedd ei werthfawrogiad o nyrsys a bydwragedd yn glir ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef i ddathlu a rhannu'r arfer da sy'n digwydd ledled Cymru."