Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn herio’r Prif Weinidog dros sylwadau ynghylch pryniant Tata
Mae Plaid Cymru wedi lleisio pryderon y gall sylwadau’r Prif Weinidog ddoe fod wedi tanseilio cais y rheolwyr i brynu gweithrediadau Tata yn y DG.
Wrth feirniadu sylwadau a wnaed am gais Excalibur gan y Prif Weinidog yn y Siambr ddoe, dywedodd Adam Price AC ei bod yn arferol i fidwyr beidio â bod â’r holl arian yn ei le yn y cyfnod hwn mewn proses fidio gymhleth.
Dywedodd Adam Price, os oes bwlch cyllido yn bodoli, yna prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru fyddai ei gau.
Meddai: “Mae’n dda o beth fod y Prif Weinidog wedi dweud mai Excalibur Steel yw’r bidiwr o ddewis, ond yr wyf yn pryderu ei fod wedi gwneud y sylwadau hyn ar amser mor dyngedfennol.
"Ddeuddydd cyn cyfarfod hollbwysig bwrdd Tata ym Mumbai, ni ddylai’r Prif Weinidog beryglu enw da buddsoddwyr.
“Mae’n bwysig cydnabod yn y cyfnod hwn yn y broses fidio am fargen gymhleth, na fydd gan y rhan fwyaf o fidwyr yr holl arian a addawyd ar gael yn syth.
"Byddai’n fuddiol i’r Prif Weinidog ein sicrhau nad yw sefyllfa Excalibur yn unigryw o bell ffordd.
“Fodd bynnag, os oes bwlch cyllido, yna dylai Llywodraeth Cymru roi’r flaenoriaeth gyntaf i geisio ei gau.
"Sôn yr ydym am sicrhau dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru, ac os yw hyn yn golygu rhoi mwy o arian ar y bwrdd, yna dyna ddylai’r llywodraeth wneud.”
Ychwanegodd Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru: “Mae’r gweithwyr dur yr wyf i’n siarad â hwy yn ddyddiol yn fras o blaid bid Excalibur, felly mae’n galondid gwybod fod Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi’r dewis hwn.
"Ond mae ar y rhan fwyaf o fargeinion fel hyn angen amrywiaeth o gefnogwyr - mae’r modd y cymerodd Mittal Arcelor drosodd yn lled ddiweddar yn enghraifft o’r modd y mae’r diwydiant dur yn gwneud i’r pethau hyn weithio.
"Yr hyn y mae angen i ni ei weld gan y Prif Weinidog yw gwell dealltwriaeth o daro bargeinion, ar sail pecyn o gefnogaeth - ariannol ac fel arall - fydd yn rhoi sicrwydd i fwrdd Tata yn India ac yn gadael Excalibur wrth y bwrdd.”