Mwy o Newyddion
Y gyfres hwylio eithafol i gyffroi ffans ym Mae Caerdydd ym mis Mehefin
Mae’r Gyfres Hwylio Eithafol wedi bod yn denu nifer o ffans i lannau Bae Caerdydd am y pedair blynedd diwethaf, ac yn ystod blwyddyn antur Cymru mae rhai o hwylwyr gorau'r byd yn dychwelyd am grand prix cyflymach nag erioed o’r blaen wrth i’r digwyddiad hwylio i mewn i Gaerdydd rhwng 23 a 26 Mehefin ar gatamaranau hydroffoil newydd: y GC32.
Bydd Bae Caerdydd yn cynnal Act 3 y cylched rhyngwladol eleni, yn dilyn digwyddiadau a gynhaliwyd eisoes ym Muscat, Oman, ac yn Qingdao, Tsieina, gyda thîm Prydain, Academi BAR Land Rover yn y pedwerydd safle ar hyn o bryd y tu ôl i Oman Air, Alinghi a Thîm Hwylio Red Bull.
Eleni, gall pobl sy’n gwylio o amgylch y Bae ddisgwyl mwy o gyffro nag o’r blaen, wrth i’r timau gystadlu ar fath newydd o gatamaranau, y GC32.
Mae’r cychod hydroffoil yn hedfan dros y dŵr wrth iddynt fynd benben â’i gilydd, ar brydiau dim ond metrau i ffwrdd o lannau’r dŵr, sy’n golygu bod y rasio’n fwy heriol i’r criwiau, ac yn fwy cyffrous i’r gwylwyr.
Dywedodd cyfarwyddwr digwyddiadau y Gyfres Hwylio Eithafol, Andy Tourell: “Mae ein criwiau elît yn cynnwys nifer o enillwyr y fedel aur yn y gemau Olympaidd, cyfranogwyr Cwpan America a chewri hwylio o amgylch y byd, ac maen nhw wrth eu boddau gyda Chaerdydd gan fod y Bae yn cynnig dyfroedd heriol a Rasio Stadiwm ar ei orau.
"Mae’r cyhoedd yn ddigon agos i werthfawrogi a chymeradwyo sgiliau'r hwylwyr, ac ymgolli yn y ras hynod gystadleuol.
"Bydd y cychod hydroffoil newydd a fydd yn rasio eleni yn gwneud y digwyddiad yn gynt ac yn fwy cyffrous. Mae'r dorf yng Nghaerdydd mewn digwyddiadau blaenorol wedi bod yn wych ac rydym yn gobeithio y bydd yr un peth yn wir eleni.”
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cymunedol, Cwmnïau Cydweithredol a Mentrau Cymdeithasol, y Cynghorydd Peter Bradbury: “Mae’r Gyfres Hwylio Eithafol wedi sefydlu ei hun fel ffefryn yng nghalendr digwyddiadau haf y ddinas, gan ddenu miloedd o ymwelwyr i’r Bae dros y penwythnos.
"Gyda rhaglen o weithgareddau cyffrous ychwanegol eleni, mae’r penwythnos yn siŵr o fod yn un da.
“Os nad ydych wedi profi’r diwrnod allan hwn i’r teulu o’r blaen, bydden i'n argymell ymweliad i weld rhai o'r hwylwyr gorau yn y byd yn ogystal ag adloniant arbennig yn y pentref rasio.
Dydd Iau, 23 Mehefin yw’r diwrnod sydd wedi’i bennu ar gyfer y cyfryngau, gyda thri diwrnod o weithgareddau cyhoeddus i ddilyn. Mae Caerdydd yn boblogaidd iawn gan ei bod yn cynnig adloniant pentref rasio gwych i’r teulu o amgylch yr Eglwys Norwyaidd – ac mae’r cwbl am ddim.
Gellir gwylio’r rasio rhwng 2pm a 5pm bob dydd, tra bydd y prif weithgareddau adloniant ar y lan yn cael eu cynnal 11:30pm-6pm ddydd Sadwrn a dydd Sul. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.extremesailingseries.com a www.gwyl-caerdydd.com
Ar ôl Caerdydd mae’r cylched yn symud ymlaen i leoliadau morol eiconig enwog eraill: St. Petersburg (Rwsa), Lisboa (Portiwgal), Hamburg (Almaen), Istanbwl (Twrci) ac Awstralia wrth iddo wneud 8 Act ar draws tri chyfandir dros 10 mis.
Mae’r Gyfres Hwylio Eithafol yn rhan o Ŵyl Haf Caerdydd, ac eleni am y tro cyntaf mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yr un pryd â Thriathlon Caerdydd ar 26 Mehefin, a fydd yn dod â mwy o gystadleuwyr a ffans i’r glannau.
Eleni mae’r gystadleuaeth yn cynnwys criwiau o 16 cenedl mewn wyth tîm – Academi BAR Land Rover (Prydain); Tîm Hwylio Red Bull (Awstria); Tîm Hwylio Eithafol SAP (DEN); Oman Air (OMA); Sail Portugal (POR); One (Tsieina); Tîm Turx (Twrci); ac Alinghi (Swistir)