Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Mai 2016

Craig goffa Elvis yn mynd o Gymru i Graceland

MAE darlun o graig adnabyddus ar fynydddir canolbarth Cymru sy’n cael ei ystyried yn deyrnged genedlaethol i Elvis Presley, nawr i gael lle o anrhydedd yn Graceland, ym Memphis Tennessee.

Mae’r darlun o waith yr arlunydd o Geredigion Wynne Melville Jones, Eisteddfa Gurig – Craig Elvis,  yn cynnwys y graffiti adnabyddus  ‘Elvis’ a baentiwyd ar graig wrth ochr y ffordd fawr ac mae’r fangre bellach wedi ei henwi’n lleol yn Craig Elvis.

Cynyrchwyd nifer cyfyngedig o brintiau o’r darlun gwreiddiol a nawr mae copi ohono wedi ei gyflwyno i’r casgliad o femorobilia yn Graceland, y plasty a fu’n gartref i Elvis ond sydd erbyn hyn yn amgueddfa ac yn archifdy sy’n denu 700,000 o ymwelwyr yn flynyddol.

Mae Craig Elvis yn gyfarwydd i deithwyr ar ffordd yr A44,  rhyw 10 milltir i’r dwyrain o Aberystwyth ger Eisteddfa Gurig, wrth droed Pumlumon Fawr, ac mae’n nodwedd amlwg ar y daith o Langurig i Aberystwyth ac wedi bod ers dros 50 mlynedd.

Fin nos yn y flwyddyn 1962,  mentrodd dau lanc ifanc o Aberystwyth i’r gwyll tua’r mynydd gyda brwsh paent i baentio Elis ar graig er mwyn cefnogi Islwyn Ffowc Elis, ymgeisydd Plaid Cymru mewn is-Etholiad yn Sir Drefaldwyn yn dilyn marwolaeth yr Aelod Seneddol lleol Clement Davies.

Yn fuan wedi’r etholiad fe newidwyd yr enw i ‘Elvis’ gan un a dybir oedd yn ffan o’r canwr byd enwog ac yn ôl y sôn roedd Islwyn Ffowc, y llenor a’r gwleidydd rhadlon,  yn ddigon bodlon i gael ei enw ar yr un llwyfan ag  Elvis, Brenin y Canu Roc.

Roedd Islwyn Ffowc Elis yn un o nofelwyr mwyaf llwyddiannus ac adnabyddus Cymru yn ystod y ganrif ddiwethaf a bu farw yn 2004 yn 79 oed.

Cwbwlhawyd y darlun o Eisteddfa Gurig gan Wynne Melville Jones yn ystod y gwanwyn eleni er mwyn ei gynnwys mewn arddangosfa o’i waith yn Oriel Rhiannon Tregaron sy’n dathlu pum mlynedd o gynhyrchu celf.

Bachgen o’r dre yw Wynne a fu’n fyfyriwr celf yn Abertawe a Chaerfyrddin ac sydd wedi ail gydio yn y brwsh paent wedi bwlch o ddeugain mlynedd.

Mae wedi paentio 250 o ddarluniau yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Daeth Wynne yn enw cyfarwydd i aelodau’r Urdd yn y 70au pan fu’n gyfrifol am nifer o gynlluniau i hyrwyddo a moderneiddio’r Urdd a does dim amheuaeth mai ei greadigaeth enwocaf yw Mistar Urdd sydd wedi,  ac sy’n  dal i fod yn ffefryn gan blant Cymru dros bedair degawd.

Ym 1979 sefydlodd y cwmni PR dwyieithog cyntaf yng Nghymru StrataMatrix a bu’n rhedeg y cwmni llwyddiannus am ddeg ar hugain o flynyddoedd.

Wedi ymddeol yn 2011 mae Wynne wedi llwyr ymgolli yn ei ddiddordeb pennaf – celfyddyd gain ac mae’n gweithio o stiwdio yn ei gartref yn Llanfihangel Genau’r Glyn yng Ngheredigion.

Mae un o’i luniau o gapel diarffordd Soar-y-Mynydd yn eiddo i Jimmy Carter,  cyn-arlywydd UDA.

Mae Wynne yn ymfalchio yn ei wreiddiau Cymreig yng Ngheredigion ac mae’n teimlo cyfrifoldeb dros bopeth Cymreig.

Mae ei ddarluniau yn tynnnu o’i wreiddiau dwfn yn y Gorllewin ac o’r dreftadaeth a’r diwylliant sy wedi goroesi yn y cymunedau hyn.

Meddai: “Rwyn paentio yr hyn sydd yn dal fy llygaid ac mae’r rhan fwyaf o’m darluniau wedi eu hysbrydoli gan y tirlun, y lliwiau a’r nodweddion diwylliannol sydd yn gysylltiedig a gorllewin Cymru ac mae llawer o gynnwys y lluniau yn gyfarwydd i nifer o bobl.

“Fel teithiwr cyson ar yr A44 rwyn hen gyfarwydd â Chraig Elvis ac i mi ar daith adre mae  fel carreg filltir ar ochr y ffordd fawr, yn fy atgoffa fy mod ar fin dychwelyd i fy sir enedigol am fod y ffin i Geredigion rownd y tro nesaf.

“Mae’r graffiti wedi bod ar y graig ers dros hanner canrif  ac mae bellach yn cael ei ystyried yn deyrnged genedlaethol i goffau Elvis ac mae’n gwbwl addas bod y llun hwn yn cartref naturiol yn Graceland.

“O safbwynt personol rwyf wedi cael fy nylanwadu gan y ddau gawr sy’n gysylltiedig â’r graig hon.

“Bu Elvis a’i gerddoriaeth yn rhan ganolog o fy niwylliant pan oeddwn yn llanc ifanc a phan yn fyfyriwr fe ddes i i nabod ac i barchu Islwyn Ffowc yn bersonol a thyfu i werthfawrogi ei waith llenyddol ag yntai yn ddarlithydd mewn Cymraeg a Drama yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin.

“Mae bob amser yn fwy pleserus i baentio darlun o rywbeth  sydd ag arwyddocad personol.”

Gellir gweld ei luniau ar ei oriel ar-lein www.orielwynmel.co.uk  

Mae’r darlun gwreiddiol ‘Eisteddfa Gurig – Craig Elvis’ wedi ei gynnwys mewn arddangosfa o waith Wynne yn Oriel Rhiannon yn Nhregaron.

Mae’r llun erbyn hyn wedi ei werthu ond bydd yn aros yno tra peri’r arddangosfa hyd 2 Gorffennaf 2016 cyn cael ei symud i’w gartref newydd.

Rhannu |