Mwy o Newyddion
Beth all Kirsty Williams gyflawni?
Pan dynnwyd llun cyntaf y Prif Weinidog, Carwyn Jones a’i gabinet newydd yn y pumed Cynulliad nid oedd golwg o Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg. Yn swyddogol roedd yn rhaid iddi hi dderbyn sêl bendith ei phlaid cyn derbyn y cynnig. Ni wnaeth y cyfarfod yn y Drenewydd ddydd Sadwrn feiddio mynd yn ei herbyn hi, na chynnig Carwyn Jones.
Aelod Cynulliad Brycheiniog a Maesyfed, unig aelod y Blaid Ddemocrataidd Ryddfrydol yn y Cynulliad, yw’r Ysgrifennydd Addysg i olynu Huw Lewis a benderfynodd ddiflannu o’r barchus arswydus swydd a’r Bae ar ddiwedd y pedwerydd Cynulliad.
Beth all hi gyflawni? Yn bendant gall adael mwy o’i hôl yn y swydd hon nag fel arweinydd ei phlaid. Erbyn hyn, mae’n aelod unigol wedi rhoi’r gorau i fod yn arweinydd Cymreig ac wedi gadael hynny i Aelod Seneddol Ceredigon, Mark Williams, ar hyn o bryd.
Mae’n rhydd o hualau arweinydd plaid a gall ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar ei gwaith lle mae disgwyliadau mawr ohoni. Mor wahanol i Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru, pan gafwyd clymblaid yn 2007.
Y ferch gyntaf yn y swydd hon yng nghabinet Llafur oedd Jane Davidson, athrawes a etholwyd i’r Cynulliad cyntaf yn 1999. Ers hynny dynion a fu yn y swydd a Leighton Andrews oedd yr amlycaf am ysgwyd y cwch, Huw Lewis i raddau llai.
Yr hyn mae athrawon ac ysgolion yn ei ddeisyfu’n fwy na dim yn eu bywyd bob dydd yw rhyw fath o gysondeb a llonydd i fynd ymlaen â’u gwaith heb orfod newid trywydd byth a hefyd i blesio’r chwiw gwleidyddol diweddaraf.
Mae un o ofynion Kirsty Williams yn eithaf derbyniol os bydd yn medru cadw at yr hyn oedd maniffesto ei phlaid yn ei amlinellu. Cadw nifer y plant mewn dosbarthiadau babanod i 25 ar y mwyaf oedd ymhlith y rhestr ei gofynion cyn derbyn y swydd gan Carwyn Jones.
Wedi'r bleidlais dydd Sadwrn dywedodd y byddai ei phlaid yn awr yn "chwarae rhan mewn creu newid go iawn yn y ffordd y mae'r llywodraeth yn gweithio i bobl Cymru.
"Byddaf yn y llywodraeth fel Democrat Rhyddfrydol, wedi fy arwain gan ein gwerthoedd a'n hymrwymiadau.
"Y gwerthoedd yma - democratiaeth, ymrwymiad i addysg, cydraddoldeb - dyna oedd wrth galon y gynhadledd heddiw."
Mae dweud hynny yn y Drenewydd ar bnawn Sadwrn ym Mai yn ddigon teg ond ar ei gweithredoedd yn y Bae yng Nghaerdydd y bydd y sylw am y blynyddoedd nesaf. A all hi ddelifero, a defnyddio gair y gwleidyddion?
Yn ei wynebu y mae canlyniadau profion, arholiadau a’r holl bresennol PISA pan ddont ar eu hynt i’w phrofi hithau. Nid eleni mae’n wir, oherwydd ni ddaw y feirniadaeth am fisoedd os na fydd yn flwyddyn a rhagor.
Tawel fu UCAC, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, am y pendodiad. Roedd NUT Cymru yn fwy effro ac yn croesawu’r cam gan Carwyn Jones ac yn edrych ymlaen at gydweithio â Kirsty Williams a thrafod syniadau wrth gamu ymlaen i barhau â’r gwelliant cyffredinol a gafwyd yn y blynyddoedd diwethaf.
Maent yn edrych ymlaen yn bennaf i weithio’n glos gyda hi am eu bod yn credu fod cynigion cyffrous ym maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol ynglŷn â maint dosbarthiadau a chynyddu’r arian i ysgolion.
Ar bethau fel hyn y bydd hi’n cael ei barnu. Er mwyn dyfodol ei phlaid, os oes dyfodol o gwbl iddi, mae’n bwysig ei bod yn gwneud ei marc yn fuan neu gallant fod heb gynrychiolwyr o gwbl yn y chweched Cynulliad.
Kirsty Williams – pwy yw hi?
Gwraig fferm a thri o blant yw yr Ysgrifennydd Addysg. Cafodd ei geni yn Taunton, Gwlad yr Haf, a’i rhieni yn Gymry. Wedi symud o Lerpwl i Bynea, Sir Gaerfyrddin, cafodd ei haddysg yn Ysgol Annibynnol St Michael’s yn Llanelli a graddiodd ym Mhrifysgol Manceinion mewn Astudiaethau Americanaidd. Am gyfnod bu’n astudio ym Mhrifysgol Missouri.
Daeth yn ôl i Gymru i weithio yn adran adnoddau dysgu Coleg Sir Gâr yn Llanelli cyn cael ei phenodi i weithio i gwmni cysylltiadau cyhoeddus yng Nghaerdydd.
Ymunodd â’r blaid Ryddfrydol yn bymtheg oed. Hi oedd ymgeisydd ei phlaid yn Ogwr yn etholiad cyffredinol 1997. Yn etholiad y cynulliad yn 1999 etholwyd hi yn aelod dros Frycheiniog a Maesyfed. Hi oedd llefarydd iechyd ei phlaid a daeth yn gadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad wedi hynny.
Yn 2008 daeth yn arweinydd ei phlaid yng Nghymru gan guro Jenny Randerson. Wrth gefnogi’r Llywodraeth Lafur yn 2012-13 llwyddodd i gael £20m ychwanegol i’w wario ar ddisgyblion tlotaf yr ysgolion. Cafwyd rhagor o arian y flwyddyn wedyn.
Hi oedd Aelod Cynulliad y Flwyddyn ITV Cymru yn 2012. Derbyniodd CBE yn 2013. Yn etholiad y Cynulliad ddechrau’r mis cynyddodd fwyafrif y Democratiaid Rhyddfrydol yn ei hetholaeth ond hi yw unig aelod y blaid yn y Cynulliad ers hynny. Rhoddodd y gorau i’r arweinyddiaeth yn syth wedyn.