Mwy o Newyddion
Plant sy'n ffoaduriaid yng Ngwlad Groeg wedi bod heb addysg am gyfartaledd o 1.5 mlynedd
Mae plant sy’n ffoaduriaid ac sy’n gaeth yng Ngwlad Groeg wedi bod heb addysg am gyfartaledd o flwyddyn a hanner, sy’n rhoi cenhedlaeth ar risg drwy wadu iddynt yr hawl i addysg, yn ôl Achub y Plant.
Wrth i’r Uwchgynhadledd Dyngarol Byd-eang cyntaf ddechrau heddiw yn Istanbul gyda’r ffocws ar addysgu ffoaduriaid, canfyddodd astudiaeth newydd gan yr asiantaeth bod mwy na thri chwarter y plant a gyfwelwyd yng Ngwlad Groeg sy’n ffoaduriaid ac o oed ysgol yn dweud mai mynychu’r ysgol oedd un o’u prif flaenoriaethau. Er hyn, nid yw mwy na un ymhob pump wedi dechrau ar eu haddysg.
Darganfyddodd yr astudiaeth nad yw ffoaduriaid sy’n blant o Syria wedi mynychu ysgol ers cyfartaledd o 25.8 o fisoedd, tra bod ffoaduriaid sy’n blant o Afghanistan yn treulio cyfartaledd o 10.7 mis heb addysg.
“O’r 7.3 miliwn o blant sy’n ffoaduriaid yn y byd heddiw, nid oes gan hanner ohonynt fynediad i addysg, a bydd y gymuned ryngwladol yn brwydro am ddegawdau i wyrdroi effeithiau’r diffyg buddsoddiad yma. Dyma’r rheswm rydym ni yn mynnu nad oes un plentyn sy’n ffoadur yn colli allan ar addysg am gyfnod hirrach na mis," meddai Helle Thorning-Schmidt, prif swyddog gweithredol Achub y Plant Rhyngwladol.
“Mae plant sydd wedi mentro pob dim er mwyn cyrraedd Ewrop bellach yn gwastraffu blynyddoedd gorau eu bywydau, mewn gwersylloedd ffoaduriaid, mewn canolfannau cadw, ac y tu hwnt i ffensys a waliau ffiniau.
"Ni ŵyr nifer ohonynt ddim gwahanol ond gwrthdaro, trais, disodli gorfodol, a’u amodau truenus presennol sydd ddim yn cynnig llawer o obaith ar gyfer eu dyfodol.”
Yn ddiweddarach heddiw bydd Llysgennad Arbennig y Cenhedloedd Unedig dros Addysg Fyd-eang, Gordon Brown, ochr yn ochr ag Achub y Plant, UNICEF, Gweinidog Addysg Libanus ac eraill, yn datgelu cronfa newydd ar gyfer addysgu mewn argyfyngau o’r enw ‘Ni All Addysg Aros / Education Cannot Wait’.
“Os yw noddwyr yn ymrwymo i gyfrannu’r arian sydd ei angen, gobeithir y bydd yn creu’r ymrwymiad gwleidyddol, gweithredol ac ariannol cyfrannol sydd ei angen er mwyn cynnyddu’r cyflenwad o addysg holl-anghenus mewn achosion brys ac argyfyngau estynedig,” esboniodd Thorning-Schmidt.
“Credwn y gall y gronfa Ni All Addysg Aros / Education Cannot Wait gynorthwyo i helpu darparu shifft catalytig i sicrhau bod pob un plentyn sy’n ffoadur yn derbyn addysg.
"Bydd cael hyn yn iawn yn cael effaith ddofn ar fywydau miliynau o blant, nid yn unig gan ddiogelu eu hawl i addysg ond gan gael effaith trawsffurfiadol ar eu cymunedau ac adeiladu seiliau ar gyfer heddwch a ffyniant.”
Unwaith y mae ffoadur wedi cael ei ddisodli am chwe mis mae’n debygol o aros felly am o leiaf dair blynedd, gyda chyfnod cyfartalog disodli bellach yn 17 mlynedd – plentyndod cyfan bron iawn.
“Gan ystyried hyd y cyfnod tebygol y bydd plant a’u teuluoedd wedi eu disodli mae’n hanfodol eu bod yn derbyn mynediad i wasanaethau syflaenol safonol, gan gynnwys addysg, mor fuan ag sy’n bosib,” medd Thorning-Schmidt.
“Mae angen i’r UE gydnabod bod addysg yn angen allweddol ar gyfer plant sydd yn gaeth yng Ngwlad Groeg a’r Balcanau, a darparu mwy o gefnogaeth i’r llywodraethau er mwyn sefydlu cyfleusterau addysgu yn y gwersylloedd a datrysiadau addysg hir-dymor.”
Mae Achub y Plant wedi bod yn darparu gwersi anffurfiol – gan gynnwys gwersi Saesneg a Groeg – drwy ei ofodau cyfeillgar i blant ar gyfer ffoaduriaid yng Ngwlad Groeg.
Llun gan Gabriele François Casini/Achub y Plant