Mwy o Newyddion
Record hawliau plant Llywodraeth Cymru dan sbotolau’r Cenhedloedd Unedig
Mae swyddogion o Lywodraeth Cymru ar eu ffordd i Genefa heddiw (23 Mai) i wynebu gwrandawiad deuddydd sy’n ceisio asesu eu record hawliau plant yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Bydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn edrych ar gynnydd Llywodraeth Cymru, yn ogystal â llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig, fel rhan o broses sydd wedi bod yn casglu tystiolaeth ar draws y gymdeithas yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae pob un o’r pedwar Comisiynydd plant yn y Deyrnas Unedig wedi tynnu sylw’r Pwyllgor yn flaenorol at feysydd sy’n destun pryder cyffredin; gan gynnwys cyflwr gwasanaethau iechyd meddwl, diogelu plant, gweithredu Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a diddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol.
Bydd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, hefyd yng Ngenefa i weld Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ateb cwestiynau ar eu record hawliau plant.
Dywedodd y Comisiynydd: “Bydda i’n sicrhau bod gan y pwyllgor wybodaeth glir a chywir i lywio’u hymholiadau.
"Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd da ar faterion plant, mae rhwystrau pwysig i’w goresgyn o hyd, gan gynnwys nifer annerbyniol o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru a rhestrau aros hir am ofal iechyd meddwl, sy’n golygu bod rhaid gwneud rhagor
" Rwyf wedi bod yn gweithio gyda chomisiynwyr eraill y Deyrnas Unedig i sicrhau bod y pwyllgor yn cael gwybod am bolisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar faterion sy’n effeithio ar blant yng Nghymru, gan gynnwys budd-daliadau a chredydau treth, cymorth i blant sy’n ffoaduriaid, a sut mae pobl ifanc yn cael eu trin yn y ddalfa.”
Mae’r arwyddion cynnar gan Carwyn Jones ei fod am symud ymlaen gyda chyfreithiau i roi amddiffyniad cyfartal rhag ymosodiad i blant, wedi iddo gael ei ailethol yn Brif Weinidog Cymru, yn peri i’r Comisiynydd gredu bod Cymru mewn sefyllfa dda i symud materion plant ymlaen yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Ychwanegodd Sally Holland: “Rwy’n credu’n bendant y dylai plant gael blaenoriaeth yn ein cyfreithiau a’n polisïau cyhoeddus, er mwyn galluogi pob plentyn i wireddu eu potensial.
"Rwyf am weithio gyda phob plaid wleidyddol i wreiddio hawliau plant yng nghymdeithas Cymru a gwella’r canlyniadau i blant a phobl ifanc. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Cynulliad newydd i gyflawni’r nod hwn.”
Llun: Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland