Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Mai 2016

Teyrnged i'r ymgyrchydd heddwch George Crabbe

BU farw George Crabbe, ymgyrchydd diflino dros heddwch a llu o fudiadau o blaid tegwch cymdeithasol, yn 91 oed yr wythnos diwethaf.

Yr oedd yn is-gadeirydd CND Cymru a thros y blynyddoedd bu ef a’i ddiweddar wraig Jeanne yn aelod diffuant a diwyd o nifer o ganghennau lleol, cenedlaethol a Phrydeinig o CND, Siop Heddwch Caerdydd, Cynefin y Werin, ymgyrchoedd gwrth-niwcliar, Senedd i Gymru, yr ymgyrch i sicrhau cofeb i wrthwynebwyr cydwybodol yng Ngardd y Deml Heddwch yng Nghaerdydd a llu o ymgyrchoedd eraill.

Yn ystod ei fywyd bu’n lowr, yn athro ysgol, yn athro Ysgol Craig y Parc, Pentyrch, ysgol ar gyfer plant ag anghenion arbennig ac wedi hynny yn brifathro Ysgol Erw’r Delyn, Penarth, hefyd ar gyfer plant ag anghenion arbennig.

Bu hefyd, am gyfnod, yn brifathro ysgol i blant gyda pharlys yr ymennydd yn Swydd Hertford.

Ymunodd â’r Blaid Gomiwnyddol pan ddaeth gyntaf i Gymru yn y 50au, adeg pan oedd y blaid yn gryf yn y de, a pharhaodd yn aelod ar hyd ei oes.

Ar ôl ymddeol bu ef a Jeanne yn byw  yn Y Bontfaen, lle dysgodd y ddau Gymraeg yn rhugl a bu’r ddau yn athrawon dosbarthiadau nos wedi hynny. 

Yr oedd hefyd yn aelod o Gôr Meibion y Machlud.

Dywedodd Jill Gough, ysgrifennydd cenedlaethol CND Cymru:  “Fedrwn ni ddim gweld George o flaen ein llygaid bellach, ond y mae popeth y bu’n gweithio a phoeni amdano yma o hyd, a rhaid i’r frwydr barhau.

“Mae ei ddwylo’n parhau i’n cynnal ac yr ydym yn addo i barhau gyda gwaith y dyn da hwn, yn ei ffordd benderfynol, ddeallus ac addfwyn. Yr oedd yn gyfaill a chydymaith annwyl.”

Rhannu |