Mwy o Newyddion
Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn
WEDI misoedd o ddarllen, pwyso a mesur, dadlau a thrafod, mae dewisiadau’r beirniaid wedi dod i law ac mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016.
Fe noddir categorïau unigol eleni gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Prifysgol Aberystwyth a Chymdeithas Brycheiniog.
Cyflwynwyd oddeutu hanner cant o lyfrau Cymraeg cymwys i’r beirniaid, ac mae’r naw teitl canlynol wedi ennill eu lle ar y Rhestr Fer:
Gwobr Farddoniaeth Prifysgol Aberystwyth
• Nes Draw, Mererid Hopwood (Gomer)
• Hel llus yn y glaw, Gruffudd Owen (Cyhoeddiadau Barddas)
• Eiliadau Tragwyddol, Cen Williams (Gwasg y Bwthyn)
Gwobr Ffuglen
• Norte, Jon Gower (Gomer)
• Y Bwthyn, Caryl Lewis (Y Lolfa)
• Rifiera Reu, Dewi Prysor (Y Lolfa)
Gwobr Ffeithiol Greadigol y Brifysgol Agored yng Nghymru
• Pam Na Fu Cymru, Simon Brooks (Gwasg Prifysgol Cymru)
• Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr, Gruffydd Aled Williams (Y Lolfa)
• Is-deitla’n Unig, Emyr Glyn Williams (Gomer)
Cyhoeddwyd Rhestr Fer 2016 mewn darllediad ar-lein byw a gynhyrchwyd mewn cydweithrediad â’r cwmni teledu Cwmni Da.
Yn ystod y darllediad bu’r cyflwynydd Lisa Gwilym yn holi dau o feirniaid Llyfr y Flwyddyn, Lleucu Roberts a Tony Brown am ddewisiadau’r ddau banel. Gellir gwylio fideo o’r darllediad byw ar wefan Llenyddiaeth Cymru.
Beirniaid y llyfrau Cymraeg eleni yw’r awdur arobryn Lleucu Roberts; y bardd a darlithydd Llion Pryderi Roberts, a chyflwynydd BBC Radio Cymru a Radio 1 Huw Stephens.
Dywedodd Llion Pryderi Roberts: “Bu darllen y llyfrau a gyflwynwyd yn dasg bleserus dros ben ac yn agoriad llygad – cyfrolau sy’n tanio’r synhwyrau a’r chwilfrydedd, sy’n synnu a swyno, sy’n addysgu a difyrru fel ei gilydd. Rhwng eu cloriau ceir myrdd o destunau, cymeriadau ac ymdriniaethau, ynghyd â’r gallu dychmygus sy’n nodweddu llenyddiaeth y Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain. Tasg anos o’r hanner oedd dethol naw cyfrol yn unig o’u plith.”
Dywedodd Lleucu Siencyn, prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae’r detholiad o lyfrau sydd wedi cyrraedd y Rhestr Fer eleni mor amrywiol â’r awduron a’u cyfansoddodd, gan brofi pa mor gyfoethog yw llenyddiaeth y Gymru gyfoes. Rydym yn hynod falch fod Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn llwyddo i hyrwyddo’r cyfoeth a’r amrywiaeth hwnnw a dangos ein bod yn parhau i wneud ein marc ar fap llenyddol y byd.”
Beirniaid y llyfrau Saesneg eleni yw’r darlithydd Tony Brown, golygydd gyda The Bookseller, Caroline Sanderson, a chyfarwyddwr Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru Justin Albert. Dyma’r teitlau sydd wedi cyrraedd y Rhestr Fer Saesneg:
Gwobr Farddoniaeth Saesneg Roland Mathias
• Love Songs of Carbon, Philip Gross (Bloodaxe Books)
• Boy Running, Paul Henry (Seren)
• Pattern beyond Chance, Stephen Payne (HappenStance Press)
Gwobr Ffuglen Saesneg Ymddiriedolaeth Rhys Davies
• The Girl in the Red Coat, Kate Hamer (Faber & Faber)
• We Don’t Know What We’re Doing, Thomas Morris (Faber & Faber)
• I Saw a Man, Owen Sheers (Faber & Faber)
Gwobr Ffeithiol Greadigol Saesneg Y Brifysgol Agored Yng Nghymru
• Losing Israel, Jasmine Donahaye (Seren)
• Woman Who Brings the Rain, Eluned Gramich (New Welsh Rarebyte)
• Wales Unchained, Daniel G. Williams (University of Wales Press)
Caiff enillwyr y Wobr fawreddog hon eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo yn The Redhouse, Merthyr Tudful nos Iau, 21 Gorffennaf. Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £1,000, ac fe gyflwynir gwobr ychwanegol o £3,000 i brif enillydd y wobr yn y ddwy iaith. Yn ogystal bydd enillwyr yn derbyn tlws sydd wedi’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones. Gallwch brynu tocyn i’r Seremoni am £5 trwy gysylltu â Llenyddiaeth Cymru: 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org
Yn y Seremoni Wobrwyo, fe gyflwynir hefyd Wobr Barn y Bobl a’r People’s Choice Award i hoff lyfrau darllenwyr Cymru o’r Rhestr Fer. Ewch i wefan Golwg360 i fwrw eich pleidlais am eich hoff lyfr ar y Rhestr Fer Cymraeg a gwefan Wales Arts Review i bleidleisio dros eich hoff lyfr ar y Rhestr Fer Saesneg