Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Mai 2016

Bwrdd Prosiect Pantycelyn yn cyhoeddi adroddiad ac argymhellion

Mae Bwrdd Prosiect Pantycelyn, sy’n cydlynu’r gwaith o ddatblygu cynlluniau ar gyfer darparu llety a gofod cymdeithasol dynodedig Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Lety a gofod cymdeithasol cyfrwng Cymraeg addas ar gyfer y dyfodol ar gyfer Cyngor y Brifysgol.

Mae'r ddogfen gynhwysfawr yn cynnwys brîff dylunio ac yn amlinellu sut y gellid ei gymhwyso i Bantycelyn.

Mae aelodau’r Bwrdd Prosiect sy'n cynnwys cynrychiolwyr myfyrwyr o UMCA ac Undeb y Myfyrwyr, staff academaidd, aelodau o’r corff llywodraethol ac aelodau annibynnol yn cytuno’n unfrydol ar yr adroddiad a'r argymhellion.

Mae'r brîff dylunio a argymhellir i Gyngor y Brifysgol yn cynnwys:

  •        200 o ystafelloedd gwely modern en-suite i fyfyrwyr;
  •        darpariaeth arlwyo;
  •         mannau cymdeithasol a chyfleusterau tebyg i'r rhai oedd ar gael i drigolion y neuadd o’r blaen, ond hefyd ar gyfer holl fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol a’r gymuned ehangach.

Meddai Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Chadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn: "Daw cyhoeddi adroddiad y Bwrdd Prosiect yn sgîl misoedd o waith ymgynghori â myfyrwyr a rhanddeiliaid allweddol ar frîff dylunio hyfyw, ac rydym wedi rhoi ystyriaeth fanwl i’r modd y gellid cyflawni’r brîff dylunio ym Mhantycelyn.

"Rwy'n ddiolchgar iawn i holl aelodau’r Bwrdd Prosiect am eu hymroddiad i'r gwaith hwn dros y misoedd diwethaf. Rwy’n hynod falch hefyd ein bod yn gwbl unfryd o ran ein hargymhelliion i Gyngor y Brifysgol."

Ychwanegodd Hanna Merrigan, Llywydd UMCA: "Mae adroddiad y Bwrdd Prosiect yn cydnabod cyfraniad Pantycelyn i'r Brifysgol, Aberystwyth a Chymru ers iddi ddod yn neuadd cyfrwng Cymraeg bwrpasol yn 1973, a'r rôl y gall Pantycelyn ar ei newydd wedd ei chwarae fel canolbwynt gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol.

"Rwy'n croesawu'r ffaith bod y brîff dylunio arfaethedig wedi'i ddatblygu ar sail ymgynghoriad gyda myfyrwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, ac rwy’n edrych ymlaen i weld Cyngor y Brifysgol yn cefnogi argymhellion y Bwrdd Prosiect fel y gellir datblygu’r cynlluniau cyffrous hyn."

Cyflwynir yr adroddiad i Bwyllgor Cyllid a Strategaeth y Brifysgol ar 27 Mai 2016 ac yn dilyn hynny i Gyngor y Brifysgol ar 29 Mehefin 2016.

Yn unol â bwriad y Bwrdd Prosiect i weithredu mewn modd agored a thryloyw, mae copi hefyd wedi'i gyhoeddi ar wefan y Brifysgol yn https://www.aber.ac.uk/cy/university/pantycelyn/

Rhannu |