Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Mai 2016

Leanne Wood yn croesawu’r llywodraeth newydd ond yn rhybuddio y bydd canlyniadau os byddant yn methu

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi ymateb i benodi Cabinet newydd y llywodraeth.

Dymunodd yn dda i’r Gweinidogion newydd yn eu swyddi, gan rybuddio ar yr un pryd, petaent yn methu cyflawni dros bobl Cymru, y byddai canlyniadau yn deillio o hynny.

Meddai: “Mae’r bobl yn haeddu llywodraeth fydd yn cyflawni drostynt, a’m gobaith i yw y gall y cabinet newydd hwn wneud gwelliannau gweladwy i fywydau pobl mewn modd na lwyddodd llywodraethau Llafur yn y gorffennol i wneud.

“Ddoe, fe rybuddiais y Prif Weinidog yn syth wedi ei ethol, petai ysbryd Llafur o haeddiant a hunan-fodlonrwydd mewn llywodraeth yn parhau, yna na fyddai ofn ar Blaid Cymru sefyll yn eu herbyn yn rhinwedd ein swyddogaeth fel yr wrthblaid swyddogol.”

Rhannu |