Mwy o Newyddion
Carwyn Jones yn penodi ei Gabinet a'i Weinidogion newydd
Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi ei Gabinet a’i Weinidogion newydd wrth i Lywodraeth Cymru ddechrau ar ei rhaglen uchelgeisiol i adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy.
Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae’n bleser cael cyflwyno’r tîm a fydd yn symud Cymru ymlaen yn ystod y pum mlynedd nesaf.
"Bydd gan bob un rôl hanfodol wrth fynd ati i gyflawni ein blaenoriaethau, gan arwain a chyfarwyddo gwaith Llywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru.
“Fel y dywedais yn fy natganiad i’r Cynulliad ddoe, bydd hon yn weinyddiaeth agored, gynhwysol a thryloyw, a fydd yn barod i gydweithio ag eraill pan fo hynny er budd y genedl.
“Mae pum mlynedd allweddol o’n blaenau ni. Fe fydda i, y Cabinet a’r Gweinidogion yn mynd ati’n diflino i wella ein heconomi a’r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae pobl Cymru yn dibynnu arnyn nhw bob dydd.
“Rydw i’n hyderus mai hwn yw’r tîm sydd â’r doniau, y weledigaeth a’r syniadau i roi cyfle i bawb, ac i adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy – heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Y Cabinet a'r Gweinidogion
Ken Skates - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith
Vaughan Gething - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
Mark Drakeford - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Kirsty Williams - Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Lesley Griffiths - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Carl Sargeant - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
Jane Hutt - Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip
Julie James - Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth
Alun Davies - Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Rebecca Evans - Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol