Mwy o Newyddion
Tich Gwilym yn parhau i ysbrydoli cerddorion Cymru
Mae Tich Gwilym yn adnabyddus am ei berfformiadau o Hen Wlad fy Nhadau ac am chwarae gyda rhai o artistiaid mwyaf eiconig y sîn roc Gymraeg.
Ond mae ymchwil academaidd sydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn taflu goleuni newydd ar fywyd a doniau’r gitarydd enwog.
Bu’r cerddor Rhys ‘Barf’ James yn cyfweld rhai o gerddorion disgleiriaf Cymru er mwyn mynd at galon Tich Gwilym, y person a’r perfformiwr, a fu farw yn 2005.
Wedi siarad â Siân James, Geraint Jarman, Dewi ‘Pws’ Morris a Peredur ap Gwynedd ymysg eraill, mae’n datgelu sut y bu i Tich:
- Gael ei wahodd i wneud record finyl pan oedd yn ddim ond 14 neu 15 mlwydd oed,
- - Gefnogi Led Zeppelin, Fleetwood Mac a Jethro Tull yn 1969,
- - Chwarae gig er fod ganddo dadchwyddiad ysgyfaint (collapsed lung),
- - Chwarae gyda’r band Mochyn ‘Apus wedi i Dewi ‘Pws’ wrthod chwarae gyda nhw oni bai bod Tich yn gwneud hefyd,
- - Feistroli’r grefft ymladd Siapaneaidd Aikido – a gwireddu breuddwyd drwy ymweld â Siapan fel rhan o fand Siân James.
Yn ogystal â llunio bywgraffiad a disgyddiaeth manwl, bu Rhys James – sy’n gitarydd o fri ei hun – yn astudio techneg Tich, gan baratoi sgorau, clipiau fideo a ffeiliau sain i gynorthwyo cerddorion eraill i ddeall sut roedd yn creu ei sain unigryw.
“Roedd Tich yn feistr ar bob math o dechnegau ar y gitâr, ac yn gallu eu cyflawni’n ddiymdrech yng nghanol caneuon,” meddai Rhys. “Rydw i wedi creu esiamplau o arddull chwarae Tich ar gyfer gitaryddion.
"Y bwriad yma yw dangos rhai o’i dechnegau a’i syniadau fel man cychwyn, gan obeithio y bydd yn ysbrydoli gwrando mwy treiddgar.”
Cafodd Rhys James grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i wneud ymchwil ar un o’i arwyr cerddorol wedi iddo sylweddoli fod cenhedlaeth o Gymry ifanc wedi colli adnabod ar Tich Gwilym.
Meddai Rhys: “Pan holais ddosbarth o fyfyrwyr cerdd a oeddynt wedi clywed am Tich Gwilym, nid oedd neb wedi clywed amdano.
"Y gobaith yw y bydd y gwaith hwn yn rhoi rhagarweiniad i’w fywyd cerddorol, gan anelu at ysbrydoli myfyrwyr y genhedlaeth nesaf i ymddiddori yn ei gerddoriaeth ac i ddysgu o’i berfformiadau.
"Credaf ei fod yn hollol briodol fod Tich Gwilym yn cael ei adnabod fel eicon Cymraeg ac un o’r gitaryddion gorau o Gymru, os nad y byd.”
Gellir darllen yr ymchwil a lawrlwytho’r sgorau a’r clipiau sain drwy fynd i Esboniadur y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: wici.porth.ac.uk/index.php/Tich_Gwilym
Llun: Tich Gwilym (GanMed64, Wikimedia Commons)