Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Mai 2016

S4C yn lansio gwasanaeth HD

Mae drama, adloniant, newyddion a chwaraeon gorau Cymru ar fin cael eu huwchraddio wrth i S4C gyhoeddi ei bod yn lansio gwasanaeth HD.

O ddramâu fel Y Gwyll, i rygbi lleol a rhyngwladol, a gemau pêl-droed hanesyddol Cymru yn Euro 2016 – bydd y cwbl yn edrych gymaint yn well ar S4C HD.

Bydd S4C HD ar gael ar Freesat a Sky yng Nghymru ac ar draws y DU o ddydd Iau 7 Mehefin ymlaen.

Tra bydd hyn yn gwella ansawdd llun y gwasanaeth cyfan ar Sky a Freesat, mi fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i gefnogwyr pêl-droed sy'n edrych ymlaen at wylio gemau Cymru yng nghystadleuaeth Euro 2016 yn fyw ar S4C.

Wrth gyhoeddi'r newyddion, meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, bod HD bellach yn wasanaeth mae gwylwyr yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu.

Meddai: "Mae sianel S4C HD yn dod yn llwyr o'r angen i ddarparu gwasanaeth mae ein gwylwyr yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu – ac mae'n newyddion gwych i’r gynulleidfa ein bod ni'n medru gwneud hynny nawr ar achlysur hanesyddol i chwaraeon yng Nghymru.

"Does dim amheuaeth fod HD yn bwysig i wylwyr teledu yn 2016 - a dyw hi ddim yn dderbyniol i ni fod gwylwyr Cymraeg yn derbyn gwasanaeth sydd yn eilradd o ran safon y llun o'i chymharu â darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill.

"Gyda chwaraeon byw yn enwedig, a mathau eraill o raglenni hefyd, mae gwylwyr yn sylwi ar y gwahaniaeth rhwng llun arferol ac HD, ac oherwydd hynny mae rhai yn dewis troi at sianeli HD.

"Gyda Chymru yn cystadlu mewn prif dwrnamaint pêl-droed am y tro cyntaf er 1958, mae'n wych i'r gynulleidfa Gymraeg fod y gemau yn mynd i fod ar gael yn y Gymraeg a nawr mewn HD hefyd."

Mae S4C HD wedi cael croeso cynnes gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn rhan o'r cynnwrf wrth edrych ymlaen at y gêm gyntaf yn Ffrainc ar 11 Mehefin, pan fydd Cymru yn wynebu Slofacia.

Meddai Jonathan Ford, Prif Weithredwr Cymdeithas Pêl-droed Cymru: "Rydym yn falch o weithio'n agos gyda S4C yn ystod ymgyrch Euro 2016.

"Mae'n bwysig iawn fod y gemau hanesyddol yma ar gael yn yr iaith Gymraeg ac mae'r ffaith y byddan nhw nawr ar gael mewn HD hefyd yn newyddion mawr i ni ac i'r cefnogwyr."

Bu raid i S4C gau ei gwasanaeth HD, Clirlun, yn 2012 yn dilyn toriadau sylweddol i gyllid y sianel.

Er bod y sianel yn dal mewn cyfnod o doriadau ac ariannu ansefydlog, meddai Ian Jones fod pwysigrwydd lluniau HD yn golygu nad yw hi bellach yn gynaliadwy i S4C barhau i ddarlledu heb wasanaeth HD.

Meddai Ian Jones; "Rydym yn ddiolchgar bod Llywodraeth y DU wedi cynnal cyllid S4C ar lefelau 2015/16 ar gyfer y flwyddyn yma, ac mae hynny wedi ein helpu yn hyn o beth.

"Mae gweddill yr arian wedi gorfod dod o'n cyllideb ehangach.

"Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cynnal Adolygiad Annibynnol i S4C o ddechrau flwyddyn nesaf ymlaen ac yn naturiol mae cyllid yn mynd i fod yn rhan bwysig iawn o hynny.

"Fe fydd sicrhau bod y sianel yn parhau'n gyfoes ac yn gystadleuol yn ystyriaeth fawr ac rydym yn gobeithio bydd modd i'r Adolygiad gymryd hynny i ystyriaeth." 

Bydd S4C HD yn lansio ar Sky a Freesat ar 7 Mehefin. Mae'n bosib y bydd angen i rai gwylwyr ail-diwnio eu hoffer ac mae Gwifren Gwylwyr S4C ar gael i'w helpu.

Llun: Jonathan Ford ac Ian Jones

Rhannu |