Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Mai 2016

Rhaid i'r Ddeddf Iaith newydd gynnwys hawl cyffredinol i'r Gymraeg

Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw am gynnwys hawl cyffredinol i'r Gymraeg yn y gyfraith wedi'r cyhoeddiad heddiw y bydd Mesur y Gymraeg yn cael ei gryfhau.

Mae'r ymgyrchwyr hefyd yn galw ar i'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru gadw at eu hymrwymiadau i ymestyn y ddeddfwriaeth i weddill y sector breifat, gan gynnwys banciau ac archfarchnadoedd.

Dywedodd Manon Elin, Cadeirydd o grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn mynd i gryfhau ein cyfraith iaith.

"Yn sicr, mae nifer o wendidau yn y Mesur presennol, sy'n llawer rhy gymhleth ei natur. 

"Fodd bynnag, mae angen deddfwriaeth er lles yr iaith a'i defnydd, nid cyfraith er lles y biwrocratiaid.

"Byddwn yn sicrhau bod y Llywodraeth yn canolbwyntio ar ffyniant y Gymraeg ac ar gynyddu'r defnydd ohoni, nid gwneud bywyd yn haws i'r gwasanaeth sifil yn unig.

"Dyna pam mae angen hawl cyffredinol ar wyneb y Ddeddf, ynghyd â'i ehangu i gynnwys gweddill y sector breifat." 

Rhannu |