Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Mai 2016

Lansiad llyfr a thrafodaeth ar y testun Y Gwirionedd am Trident

BYDD Sefydliad Coffa David Davies (DDMI) yn croesawu Timmon Wallis mewn lansiad llyfr a thrafodaeth ar y testun The Truth about Trident ddydd Mawrth, 24 Mai.

Mae llyfr newydd Timmon Wallis yn trafod mater dadleuol cadw’r rhaglen niwclear Trident.

Mae’n mynd i’r afael â chwestiynau megis:

  • Faint fyddai adnewyddu Trident yn costio mewn gwirionedd? 
  • Beth fyddai effeithiau peidio ag adnewyddu Trident?
  • Ydy arfau niwclear yn wir wedi’n cadw ni’n ddiogel ers diwedd yr Ail Ryfel Byd?
  • Ydy Trident yn gyfreithlon hyd yn oed, o dan Gyfraith Ryngwladol?

Mae gan Timmon Wallis PhD mewn Astudiaethau Heddwch o Brifysgol Bradford, ac mae wedi gweithio ar brosiectau heddwch yn Chechnya, Croatia, Sri Lanca, Ynysoedd Philippines a De Swdan.

Bu’n gyn olygydd Peace News a Chyfarwyddwr y Cyngor Heddwch Cenedlaethol.
Mae’n gweithio ar hyn o bryd i Quaker Peace and Social Witness. 

Cynhelir y lansiad a’r drafodaeth ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, rhwng 7:00-8:30yp ddydd Mawrth, 24 Mai. 

Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd, y gyfadran, a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn gynnes i’r digwyddiad.

Rhannu |