Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Mai 2016

Marw cyn-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, J O Hughes

YN 97 oed bu farw cyn-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, J O Hughes mewn cartref gofal ym Malltraeth, Môn.

Roedd yn un o aelodau gwreiddiol Cynghrair Bêl-droed Ynys Môn a sefydlwyd yn y pedwardegau.

Bu hefyd yn drysorydd Cynghrair Huws Gray ac yn llywydd iddi er tymor 1994/95 a daeth yn aelod o gyngor y Gymdeithas Bêl-droed yng Nghymru yn 1973.

Roedd hefyd yn gysylltiedig â Chynghrair Undebol y Gogledd a Chymdeithas Bêl-droed y Gogledd.

Ar wefan y Gymdeithas mae teyrnged iddo’n dweud: “Yn gawr o ran ei gyfraniad dros y blynyddoedd daeth yn aelod o CBDC wedi blynyddoedd o wasanaeth yn Sir Fôn.

“Am flynyddoedd fe wnaeth waith cenhadol gwirfoddol yn y gogledd yn llenwi sawl swydd gyda brwdfrydedd anhygoel.

“Yn gyn-Lywydd ar y Gymdeithas mae pawb o fewn y teulu pêl-droed yn cofio J.O. ac yn cydymdeimlo yn fawr gyda’i deulu.”

Dywedodd Trefor Lloyd Hughes, cyn-lywydd diweddar y Gymdeithas Bêl-droed fod ei ragflaenydd wedi rhoi cyfraniad oes i bêl-droed ym Môn a Chymru a bod ei waith cychwynnol yn dal i ddwyn ffrwyth heddiw.

Rhannu |