Mwy o Newyddion
Dafydd Wigley yn dadlau dros Ewrop
BYDD cyfle i arweinwyr busnes, rheolwyr a gweithwyr yng Ngwynedd, Môn a Chonwy drafod oblygiadau’r refferendwm Ewropeaidd ar fusnesau yng Nghymru gyda Dafydd Wigley, aelod o Fwrdd ‘Stronger In’ sy’n ymgyrchu i’r Deyrnas Unedig aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.
Cynhelir y cyfarfod yng Nghanolfan Rheolaeth, Ysgol Fusnes, Prifysgol Bangor nos Fawrth nesaf, 24 Mai, fis cyn y bleidlais.
Mae’r Arglwydd Wigley wedi bod yn lladmerydd brwd dros Ewrop ers ei gyfnod yn aelod seneddol dros etholaeth Caernarfon.
Cyn hynny bu’n gweithio i gwmniau Americanaidd fel Cwmni Ceir Ford a Mars Ltd cyn ei benodi yn Bennaeth Cyllid a Gweinyddu Hoover Ltd yng Nghymru.
Daeth yn Gadeirydd ADC, cwmni lleol a ymunodd â Chwmni DPC o Los Angeles i ffurfio Euro-DPC yn Llanberis – y cwmni sydd bellach yn rhan o Siemens.
Meddai: “Rwy’n edrych ymlaen at ddadlau’r archos cryf dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
“Mae Cymru’n elwa’n sylweddol o fod yn rhan o’r UE, yn enwedig oherwydd arian strwythurol, gyda degau o filiynau o bunoedd wedi ei fwydo i mewn i economi gogledd orllewin Cymru ynghyd â’r farchnad Ewropeaidd hanfodol i’n diwydiant amaethyddol.”
Mae’r cyfarfod yn y Ganolfan ar Ffordd y Coleg yn dechrau am 6.30yh.
Yn dilyn y cyfarfod swyddogol bydd cyfle am drafodaeth anffurfiol yng Nghlwb Busnes y Brifysgol.