Mwy o Newyddion
Gwledd o flodau nas gwelwyd ym Mhlas Tan y Bwlch ers blynyddoedd lawer
Aeth dwy flynedd heibio ers stormydd geirwon 2014 pan ddinistriwyd rhan o un o erddi pwysicaf Gogledd Cymru sef gerddi Plas Tan y Bwlch, campwaith Fictoraidd yn nyffryn hardd Maentwrog ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Yn dilyn y stormydd, comisiynodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri'r ymgynghorydd garddio a'r awdur Tony Russell i lunio cynllun ar gyfer adfer y gerddi ac ers hynny symudwyd tunelli o goed oedd wedi syrthio a’u difrodi, adferwyd llwybrau, crëwyd llwybr newydd drwy’r ardd ar gyfer ymwelwyr, agorwyd ystafell de newydd a phlannwyd dros 400 o blanhigion, coed a llwyni newydd.
Dywedodd Pennaeth Busnes Plas Tan y Bwlch Andrew Oughton: "Crëwyd y gerddi’n wreiddiol gan y teulu Oakeley oedd yn berchen y stad yn oes Fictoria.
"Roeddent yn arbennig o hoff o Fagnolias, Rhododendron (nid y math ponticum!) Camelias a choed Masarn Siapan, felly rydym wedi plannu mathau newydd o'r rhain, ynghyd â llawer o rywogaethau eraill.
"Dim ond yn ystod y dyddiau diwethaf mae’r blagur wedi ffrwydro’n flodau, gan greu gwledd o liwiau nas gwelwyd yma yn y Plas ers blynyddoedd lawer."
Rhagwelir y bydd y blodau’n parhau tan ddiwedd y mis a bydd y gerddi ar agor bob dydd o 10yb – 5yh er mwyn i ymwelwyr eu mwynhau.