Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yw'r wrthblaid fwyaf llwyddiannus yn hanes y Cynulliad yn ôl Simon Thomas
Mae Plaid Cymru wedi cyflawni mwy mewn wythnos fel gwrthblaid nac unrhyw Blaid yn hanes y Cynulliad, yn ôl Simon Thomas AC.
Dywedodd fod bargen un-bleidlais y Blaid gyda'r llywodraeth Lafur yn golygu cyflawni pump o addewidion allweddol Plaid Cymru adeg yr etholiad.
Dan gytundeb Plaid Cymru, caiff mwy o feddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eu hyfforddi a'u recriwtio yng Nghymru, caiff cleifion hi'n haws i gael cyffuriau a thriniaethau newydd, bydd mwy o ofal plant am ddim ar gael i rhieni a dygir ymlaen fwy o brosiectau seilwaith fydd yn cryfhau'r economi.
Dywedodd Simon Thomas AC Plaid Cymru: “O ganlyniad i drafodaethau Plaid Cymru, bydd yn rhwyddach i gleifion fynd at feddyg teulu a chael thriniaethau newydd ac arloesol.
"Fe gaiff rhieni fwy o ofal plant, fydd yn arbed rhyw £100 yr wythnos iddynt.
"Ym mhob rhan o Gymru, rwy'n disgwyl gweld prosiectau seilwaith i wella ein ffyrdd a'n rheilffyrdd, a gall mwy o bobl gael hyfforddiant mewn sgiliau trwy brentisiaethau.
“Mewn cwta wythnos mae Plaid Cymru wedi cyflwyno gwir ganlyniadau i bobl.
"Ni yw'r wrthblaid fwyaf llwyddiannus yn hanes y Cynulliad.
“Mewn cytundeb ar bleidlais unwaith ac am byth, bydd Plaid Cymru yn cyflawni pump o'i haddewidion allweddol a wnaed adeg yr etholiad, ac yr wyf yn edrych ymlaen at rannu mwy o fanylion gyda phobl yn nes ymlaen heddiw.”