Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Mehefin 2011

Enillydd Gwobr Nobel i annerch ar newid hinsawdd

Bydd enillydd Gwobr Nobel yn darlithio ar newid hinsawdd yng Nghaerdydd nos Fercher.

 

Mae Syr John Houghton yn arbenigwr byd-enwog ar gynhesu byd-eang ac yn gyn-gyd-gadeirydd yr IPCC (Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd), a enillodd Wobr Heddwch Nobel yn 2007 ar y cyd gydag Al Gore, cyn Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau.

 

Bydd Syr John yn annerch ar y testun ‘Science, God and Global Warming’. Yn Gristion o argyhoeddiad, mae wedi disgrifio cynhesu byd-eang fel ‘arf o ddinistr torfol’.

Yn 2003 dywedodd: "Fel gwyddonydd a fu’n gweithio yn y maes hwn ers degawdau, yn gyntaf fel pennaeth y Swyddfa Dywydd ac yna fel cyd-gadeirydd Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar newid yn yr hinsawdd, does gennyf ddim amheuaeth bod modd disgrifio effeithiau cynhesu byd-eang fel arf o ddinistr torfol."

 

Yn ogystal â bod yn flaenor yn Eglwys Bresbyteraidd Aberdyfi, mae Syr John yn:

· gyn-athro mewn ffiseg atmosfferig ym Mhrifysgol Rhydychen (1976-83);

· gyn-Brif Weithredwr y Swyddfa Dywydd (1983-91);

· enillydd Gwobr Japan 2006 am ei waith arloesol ym maes ffiseg ac am hyrwyddo asesiadau rhyngwladol o newid hinsawdd;

· un o sylfaenwyr Cymdeithas Ryngwladol Gwyddoniaeth a Chrefydd.

 

Trefnir y cyfarfod gan Henaduriaeth Morgannwg-Llundain o Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Dywedodd y Parch Dafydd A. Jones, Ysgrifennydd yr Henaduriaeth: “Mae’n anrhydedd croesawu gwyddonydd mor nodedig â Syr John Houghton atom i Gaerdydd.

"I Gristnogion, bydd y noson yn gyfle i ystyried ac i ddysgu am effaith y ddynoliaeth ar greadigaeth Duw.

"Ond gyda gwyddonydd mor flaenllaw â Syr John yn darlithio, rwy’n gwbl sicr y bydd yr hyn sydd ganddo i’w ddweud o ddiddordeb mawr i unrhyw un sydd â diddordeb yn y byd o’n cwmpas.”

 

Bydd y noson yn dechrau am 7yh ac mae croeso cynnes i bawb – mynediad am ddim. Traddodir y ddarlith yn Saesneg.

Rhannu |